Her Mathemateg
20 Mehefin 2017
Cyflwynwyd mwy na 500 o gynigion ar gyfer yr Her Mathemateg ar gyfer ysgolion a drefnwyd gan yr Adran Fathemateg, y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol (CWPESI), a Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru. Gwahoddwyd plant o flynyddoedd 7 i 10 o bob rhan o ganolbarth Cymru i dreulio eu hanner tymor fis Chwefror yn ateb cwestiynau mathemateg heriol ... ac mae llawer ohonynt wedi gwneud hynny! Cyhoeddwyd canlyniadau’r her yr wythnos hon, a chyflwynwyd gwobrau i wyth deg o enillwyr mewn seremoni wobrwyo ar Gampws Penglais.
Fe wnaeth myfyrwyr o'r Adran Fathemateg farcio’r cynigion oedd yn cynnwys cwestiynau ar thema reidiau ffair a chwaraeon. Roedd y cwestiynau’n cynnwys y ffordd orau i drefnu twrnamaint badminton, strategaethau da er mwyn ennill gemau siawns, hyd sleid "Helter Skelter", a sut i gyrraedd adref o barc thema gyda chludiant annigonol. Gwnaeth Debra Croft (Cyfarwyddwr CWPESI) sylw ar ymrwymiad a thalent fathemategol amlwg y disgyblion ysgol, a nododd fod llawer o'r sgriptiau yn dangos gafael gwirioneddol dda o'r pwnc.
Rhoddodd Dr Tudur Davies o'r Adran Fathemateg gyflwyniad i’r enillwyr a'u teuluoedd ar sut i ganfod y lle gorau i osod pêl rygbi wrth geisio trosi cais. Gan gymryd y syniad o'r gwahanol ffyrdd o dorri côn, dangosodd fod y lle gorau i osod y bêl rygbi eliptig yn gorwedd ar bwynt ar linell hyperbolig, a ddewisir yn seiliedig ar ble sgoriwyd y cais, a phan gaiff ei chicio bydd y bêl yn dilyn arc barabolig.
Dywedodd Adrian Wells o'r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach "Roedd yn bleser i weithio gyda'r Brifysgol a’r Adran Fathemateg yn arbennig ac i roi cyfle i ddisgyblion ifanc i arddangos eu diddordeb a'u gallu mewn Mathemateg". Ychwanegodd Simon Cox, Pennaeth yr Adran Fathemateg, "Mae'r Adran yn gwneud llawer o waith gydag ysgolion lleol, gan ddefnyddio arbenigedd ein hacademyddion i gyflwyno mathemateg mewn ffyrdd cyffrous ac arloesol er mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc. Roeddem yn falch iawn bod mwy na 500 o blant ysgol wedi rhoi cynnig ar ein Her Mathemateg eleni a hoffem ddiolch i'r holl ysgolion a gymerodd ran am eu cefnogaeth."