Ap “match-a-mathics” ar gael nawr!
12 Mehefin 2017
Mae’r ap “match-a-mathics” wedi cael ei ddatblygu gan Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n gêm rad ac am ddim sy’n caniatáu i chi ddysgu ac adolygu cysyniadau pwysig mewn mathemateg. Mae’r syniad yn deillio o gêm gardiau i blant, lle mae’n rhaid chwilio am barau, ond yma mae’n rhaid i chi ganfod parau o gardiau sydd â chysylltiad mathemategol. Mae’r gêm yn cynnwys y pynciau algebra, calcwlws, geometreg a thebygoleg, ac mae’r cwestiynau wedi’u hanelu at safon lefel A. Gallwch chwarae’r gêm ar ben eich hun neu gallwch chwarae yn erbyn ffrind er mwyn gweld pwy sydd â’r wybodaeth fathemategol orau.
Yn ôl Daniel Burgarth, wnaeth arwain datblygiad yr ap: "Mae gennym gynlluniau pellach ar gyfer yr ap, sy’n cynnwys ychwanegu mwy o bynciau mathemategol. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer cynnwys pellach, cysylltwch â ni."