Medal Academi Gwyddoniaeth Rwsia
13 Mawrth 2015
Yr wythnos hon, derbyniodd Nikolai Gorbushin fedal gan Academi Wyddoniaeth Rwsia am ei draethawd Meistr â’r teitl "Incubation processes in dynamic fracture and phase transformation of continuous media", a gwblhaodd tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol St. Petersburg. Mae hefyd yn casglu gwobr o 25,000 rwbl. Mae Nikolai bellach yn gweithio tuag at ei ddoethuriaeth yng ngrŵp ymchwil yr Athro Gennady Mishuris gyda’i waith yn rhan o’r prosiect CERMAT2, sydd wedi’i ariannu gan raglen FP7 yr Undeb Ewropeaidd. Nod y prosiect yw datblygu technolegau ceramig newydd gan gynnwys dyfeisiadau a strwythurau ceramig amlswyddogaethol newydd.