Dyfarniad Cwrs Eithriadol i Dr Vellender

19 Rhagfyr 2014
Llongyfarchiadau i Dr Adam Vellender ar dderbyn dyfarniad "Cymeradwyaeth Uchel" yng Ngwobrau Cyrsiau Eithriadol y Brifysgol ar gyfer 2014. Dyfarnwyd y wobr iddo am safon y deunydd dysgu ychwanegol a gyflwynodd i’r modiwl MA34110 Partial Differential Equations. Derbyniodd ganmoliaeth gan y beirniaid am ei "ddefnydd rhagorol o dechnoleg" ac am gynnig "cyfleoedd i fyfyrwyr i atgyfnerthu eu dysgu", a’r defnydd o restrau gwirio adolygu a fideos. Mae’r deunydd i gyd ar Aberlearn Blackboard.