Gwobrau am gyflawniad eithriadol myfyrwyr mewn Mathemateg

Cyflwynwyd tystysgrifau i fyfyrwyr yn ystod yr wythnos groesawu gan ein Pennaeth Adran, Dr Gwion Evans.

Cyflwynwyd tystysgrifau i fyfyrwyr yn ystod yr wythnos groesawu gan ein Pennaeth Adran, Dr Gwion Evans.

04 Hydref 2024

Mae’r adran yn dyfarnu gwobrau yn flynyddol i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau Mathemateg dros y flwyddyn flaenorol, diolch i roddion a chymynroddion gan gyn aelodau o staff a chyn-fyfyrwyr.

Roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i rai o’n myfyrwyr wnaeth raddio yn gynharach eleni. Yr wythnos yma, roedd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau rhai o’r myfyrwyr sydd wedi dychwelyd atom.

Mae Gwobr T.V. Davies ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967 yn cael ei dyfarnu am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol; yr enillwyr eleni yw Harry Richards, James Anstey, Cordelia Bryant, Stephan Gambart a Rachel Seaborne, sydd i gyd yn dechrau ym mlwyddyn 3.

Mae Gwobr V.C. Morton ar gyfer Mathemateg, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg, yn cael ei dyfarnu er cof am yr Athro Vernon Morton, Pennaeth Mathemateg Bur, 1923-1961. Dyfarnwyd y gwobrau yma eleni i Jamie Watkins, Sapphire Colpus a Tal Griffiths, sydd i gyd yn dechrau ar flwyddyn olaf y cwrs gradd MMath.

Dyfarnir Gwobr C.D. Easthope ar gyfer Mathemateg, er cof am Dr Colin Easthope, Uwch-ddarlithydd mewn Mathemateg Gymhwysol 1936-1975, am berfformiad rhagorol gan unrhyw fyfyriwr israddedig Mathemateg. Eleni mae’r gwobrau Easthope yn mynd i Chris Smith, Meilyr Lynch, Ben Powell, Hannah Peacock, Tom Wolstencroft a Josh Wood, sydd i gyd yn dechrau ar flwyddyn 2.

Dyfarnir Gwobr Goffa Mike Jones ar y cyd rhwng yr Adrannau Mathemateg a Ffiseg, er cof am gyn-fyfyriwr. Enillwyr y wobr eleni yw Kevin Liang a Will Townsend, am eu perfformiad ym mlwyddyn 2 a 3 yn ôl eu trefn.

Mae staff addysgu yr adran yn eu llongyfarch i gyd ar eu llwyddiannau.