Interniaeth ymchwil rhyngwladol fawreddog i fyfyriwr Mathemateg

Cordelia Bryant  a fydd yn gweithio yng Nghanada yn ystod yr haf ar ôl sicrhau Interniaethau Ymchwil Mitacs Globalink.

Cordelia Bryant a fydd yn gweithio yng Nghanada yn ystod yr haf ar ôl sicrhau Interniaethau Ymchwil Mitacs Globalink.

23 Mai 2024

Bydd myfyriwr israddedig Mathemateg yn treulio'r haf yn gweithio yng Nghanada ar ôl derbyn interniaeth ymchwil fawreddog.

Bydd Cordelia Bryant yn gweithio am ddeuddeg wythnos yn Toronto o ddechrau mis Mehefin hyd at ddiwedd Awst ar ôl sicrhau lle ar raglen Interniaeth Ymchwil Mitacs Globalink.

Bydd Cordelia, sy’n astudio Mathemateg ac yn wreiddiol o Austin, Texas, yn gweithio ym Mhrifysgol Fetropolitan Toronto ar brosiect sy’n ymwneud â gwella cywirdeb sganiau MRI ar gyfer canfod mathau gwahanol o ganser.

Dywedodd Cordelia: “Mae hon yn rhaglen gystadleuol ac rwy’n falch iawn o fod wedi sicrhau fy lle arni ar gyfer yr haf hwn. Mae’n gyfle i mi ddatblygu fy niddordeb yn y modd mae ystadegau’n rhyngweithio â’r byd naturiol; dyma pam y gwnes i gais i weithio ar sganiau MRI. Yn y tymor hirach, rwy’n gobeithio cael gyrfa mewn ymchwil a bydd yr interniaeth hon yn rhoi cyfle i mi gael profiad o sut beth fyddai hyn. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i brofi’r opsiynau sy’n fy ngorfodi i dyfu fwyaf, ac rwy’n mawr obeithio y bydd fy amser yn Toronto yn gwneud hynny.”

Wrth longyfarch Cordelia ar ei llwyddiant, dywedodd yr Athro Tim Woods, Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae rhaglen Interniaeth Ymchwil Mitacs Globalink yn denu ymgeiswyr o’r radd flaenaf ac mae llwyddiant Cordelia yn dyst i’w hymroddiad ac i ansawdd y myfyrwyr sydd gennym ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym ni’n ymfalchïo’n fawr yn y profiad rydym ni’n ei gynnig ac yn annog ein myfyrwyr i ehangu eu gorwelion trwy ein rhaglenni teithio ac astudio dramor ac rwy’n falch iawn bod Cordelia wedi manteisio’n llawn ar y cymorth y mae ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn ei gynnig i sicrhau’r interniaethau ar y rhaglenni hyn ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw’n ystod eu cyfnod yng Nghanada.”

Mae Interniaeth Ymchwil Mitacs Globalink yn fenter gystadleuol ar gyfer israddedigion rhyngwladol o Awstralia, Brasil, Tsieina, Colombia, Ffrainc, yr Almaen, Hong Kong, India, Mecsico, Taiwan, Tunisia, yr Wcrain, y Deyrnas Gyfunol a'r Unol Daleithiau.

O fis Mai i fis Hydref bob blwyddyn, mae ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn interniaeth ymchwil 12 wythnos o dan oruchwyliaeth sefydliadau academaidd yng Nghanada mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd, o wyddoniaeth, peirianneg, a mathemateg i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Mae’r rhaglen yn un o ystod o raglenni teithio ac astudio dramor sy’n cael eu cynnig neu eu hwyluso gan dîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r rhaglenni’n amrywio o gyfleoedd i dreulio semester neu flwyddyn dramor mewn prifysgol bartner, blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant tramor, rhaglenni byr gan gynnwys ysgolion haf a chyllid ar gyfer cefnogi amser tramor fel rhan o’r rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol, Taith, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a Chynllun Turing Llywodraeth y DG.

Mae Cordelia ar hyn o bryd yn astudio ar y radd Meistr Integredig pedair blynedd mewn Mathemateg (MMath) yn yr Adran Fathemateg.