Adar o Gymru ac Iwerddon sydd dan fygythiad yn cael eu gyrru i gynefinoedd newydd oherwydd newid hinsawdd
Y gylfinir, aderyn hirgoes mwyaf Ewrop gyda'i big crwm hir nodedig, sydd i'w weld yn ystod y gaeaf yn bwydo ar fflatiau llaid llanw, morfeydd heli a thir fferm cyfagos. Cafodd ei ychwanegu at restr Goch Adroddiad Statws Cadwraeth y DU yn 2015.
07 Medi 2023
Mae aderyn sy’n frodorol i Gymru ac Iwerddon a dan fygythiad gwirioneddol yn cael eu gorfodi i gynefinoedd peryclach o ganlyniad i newid hinsawdd yn ôl ymchwil newydd.
Mae'r gylfinir, aderyn hirgoes mwyaf Ewrop gyda'i big crwm hir nodedig, i'w weld yn ystod y gaeaf yn bwydo ar fflatiau llaid llanw, morfeydd heli a thir fferm cyfagos.
Yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi’r wythnos hon mae newid i’r hinsawdd yn gyrru'r adar i dreulio’r gaeaf mewn ardaloedd lle mae mwy o safleoedd diwydiannol a chaeau chwaraeon ac amaeth, gan eu gwneud yn llawer mwy bregus.
Gyda’u niferoedd yn dirywio'n gyflym, ychwanegwyd y gylfinir at restr Goch Adroddiad Statws Cadwraeth y DU yn 2015, y flaenoriaeth gadwriaethol uchaf ac angen cymorth brys.
Mae'r astudiaeth ddiweddaraf yn codi pryderon cynyddol y gallai symud i ffwrdd o'u cynefinoedd naturiol arwain at ddifodiant yr adar yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae’r casgliadau’n seiliedig ar astudiaeth hir-dymor o gynefinoedd y gylfinir yn y DU ac Iwerddon gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Cork, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain a Geo Smart Decisions gan ddefnyddio data a gasglwyd gan filoedd o wirfoddolwry dros gyfnod o ddau ddegawd.
Dr Kim Kenobi o Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth yw awdur arweiniol yr erthygl sydd wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Ecological Informatics.
Dywedodd Dr Kenobi: “Defnyddiwyd ymagwedd gymharol newydd i gymharu cynefinoedd a’r tywydd mewn lleoliadau sy’n cael eu defnyddio gan y gylfinir yn y gaeafu dros gyfnod o bron i ddau ddegawd. Trwy leihau tirweddau cymhleth iawn gan ddefnyddio’r dulliau diweddaraf hyn, rydym wedi nodi’r cynefinoedd allweddol y mae’r gylfinir yn eu defnyddio yn y gaeaf, a phan fyddant yn eu defnyddio, pa ardaloedd fydd yn cefnogi ymdrechion cadwriaethol ar gyfer y rhywogaeth fregus hon yn y pen draw.”
Dyma’r dadansoddiad graddfa ranbarthol cyntaf o ddosbarthiad y gylfinir yn ystod y gaeaf ac mae wedi datgelu sawl cynefin annisgwyl sy’n cael eu defnyddio gan y gylfinir, gydag ystod ddaearyddol yr aderyn wedi'i gyfyngu gan y dirwedd a'r tywydd.
"Mae'n hanfodol ein bod yn deall sut mae adar sy'n dirywio fel y gylfinir yn defnyddio'r tirweddau sydd eu hangen arnynt i oroesi" meddai Dr Callum Macgregor, ymchwilydd yn Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. "Mae misoedd y gaeaf yn heriol yng nghylch bywyd y gylfinir felly mae adnabod a gwarchod y cynefinoedd y mae'r rhywogaeth dan fygythiad yn eu defnyddio yn hanfodol ar gyfer eu cadwraeth, yn enwedig yng ngoleuni bygythiadau o ddatblygu a newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr sy'n casglu setiau data cenedlaethol hirdymor fel y rhai a ddefnyddir yn yr astudiaeth hon. Mae eu cymorth yn allweddol i ddatgloi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i amddiffyn ein bywyd gwyllt sydd fwyaf mewn perygl."
Mae’r ymchwil yn datgelu bod digwyddiadau tywydd eithafol megis rhew yn cyfyngu ar yr ardaloedd daearyddol y gallai’r adar eu defnyddio ac wedi arwain y gylfinir i ddefnyddio gwahanol gynefinoedd drwy gydol y gaeaf.
Gallai'r canfyddiadau hyn gynnig golwg ar sut i liniaru effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd ar un o'r rhywogaethau adar mwyaf bregus.
“Roedd mis Chwefror yn fis arbennig o ddiddorol, gan fod y gylfinir i’w gweld yn defnyddio ystod llawer ehangach o gynefinoedd. Mae’r symudiadau hyn yn cynyddu’r perygl o farwolaeth gan ei fod yn eu tynnu oddi wrth eu cynefin naturiol, sy’n effeithio ymhellach ar y gostyngiad yn y boblogaeth gan fod llai o adar yn dychwelyd adref i fridio bob gwanwyn” meddai Dr Paul Holloway, ymchwilydd yng Ngholeg Prifysgol Cork. “Wrth nodi’r patrwm cyson hwn dros yr 20 mlynedd diwethaf, gallwn ragweld lle mae adar yn debygol o fod, ac yn bwysig iawn pryd y byddant yno, sy’n ein cynorthwyo i hyrwyddo eu diogelwch a’u lles ar eu cam mudo olaf.”
Mae’r papur Lasso penalisation identifies consistent trends over time in landscape and climate factors influencing the wintering distribution of the Eurasian Curlew (Numenius arquata) ar gael arlein.
Mae'r ymchwil hwn yn rhan o brosiect ECHOES (Effects of Climate Change on Birds around the Irish Sea), astudiaeth i effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd y Gylfinir a Gwyddau Gwyn yr Ynyslas yng Nghymru ac Iwerddon.
Cafodd y cynllun ei lansio yn 2020 ac mae’n cael ei ariannu drwy Raglen INTERREG Iwerddon-Cymru 2014-2020 ac yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.