Graddio Mathemateg 2020-2022
Graddedigion Mathemateg o 2020 a 2021.
14 Gorffennaf 2022
Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr Mathemateg wnaeth raddio'r wythnos yma, gyda rhai ohonynt wedi aros dwy flynedd i wneud hynny. Cynhaliwyd seremonïau graddio ar gyfer graddedigion o 2020 a 2021, yn ogystal â myfyrwyr wnaeth gwblhau eu cyrsiau eleni. Yn y seremoni olaf, cyflwynwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus i Jonathan Whelan, cyn-fyfyriwr Mathemateg sydd bellach yn gweithio ym maes Technoleg Gwybodaeth. Bydd recordiadau o’r seremonïau ar gael am amser cyfyngedig ar dudalennau gwe'r brifysgol.
Yn dilyn seremoni 2022 roedd yn bleser cyflwyno gwobrau i nifer o’n graddedigion am eu perfformiadau eithriadol mewn Mathemateg.
Dyfarnir Gwobr Pennington ar gyfer Mathemateg Bur, er cof am yr Athro Barry Pennington, Pennaeth Mathemateg Bur 1961-1968, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Bur. Yr enillwyr eleni oedd Christian Chelland, Llio Davies a Samuel Grundy-Tenn.
Dyfarnwyd Gwobr O.L. Davies ar gyfer Ystadegaeth, er cof am yr Athro Owen Davies, Pennaeth Ystadegaeth 1968-1975, i Charlotte Slaytor am y perfformiad gorau mewn Ystadegaeth.
Dyfarnwyd Gwobr Colin Easthope am berfformiad eithriadol mewn Mathemateg, er cof am Dr Colin Easthope, Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg, 1963-1975, i Katie Taylor.
Dyfarnwyd Gwobr T.V. Davies Prize ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967, i Holly Blyth am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol.
Mae Gwobr Clive Pollard ar gyfer Mathemateg wedi’i henwi ar ôl cyn-fyfyriwr wnaeth raddio mewn Mathemateg Bur yn 1972. Dyfarnwyd y wobr eleni i Hywel Normington am ei berfformiad rhagorol mewn Mathemateg yn rhan 2 o’i gwrs gradd.
Mae Christian Chelland a Samuel Grundy-Tenn hefyd yn derbyn gwobrau gan y Sefydliad Mathemateg a’i Gymwysiadau (Institute of Mathematics and its Applications, IMA) am y perfformiad gorau yn gyffredinol.
Mae gwobrau hefyd wedi cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd ddim yn eu blwyddyn olaf; fe fyddwn yn llongyfarch y myfyrwyr yma pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.