Darlithwyr mathemateg yn derbyn cymeradwyaeth uchel

28 Ebrill 2015

Cafodd cyfraniad dau aelod o staff mathemateg tuag at brofiad myfyrwyr ei gydnabod yn ystod noson Wobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2015. Derbyniodd Tudur Davies gymeradwyaeth uchel am Ragoriaeth mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg a chafodd Adam Vellender gymeradwyaeth uchel am Addysgu Rhagorol. Roedd ei ddyfyniad yn nodi fod “darlithoedd Adam bob tro’n boblogaidd, yn bennaf gan ei fod yn gwneud y mathemateg rydym yn ei ddysgu yn hynod o ddiddorol”.