Wythnos Addysg Oedolion

 

 

Mae dysgu gydol oes yn trawsnewid bywydau, mae’n galluogi mwy o oedolion i symud ymlaen ac adeiladu dyfodol gwell.

Caiff Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac fe’i cynhelir ym mis Medi gyda gweithgaredd drwy gydol y mis.

Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyffrous i fod yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion ac fe fyddwn yn cynnal y digwyddiadau isod er mwyn helpu i wneud Cymru'n genedl o ddysgwyr gydol oes!

Bydd yr ymgyrch flynyddol yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i ddarganfod cyfleoedd a llwybrau dysgu newydd. Bydd gwefan yr Wythnos Addysg Oedolion a Cymru’n Gweithio yn rhoi gwybodaeth am gannoedd o ddigwyddiadau a chyrsiau am ddim ar-lein a wyneb ac adnoddau rhad ac am ddim, gyda straeon sy’n ysbrydoli am unigolion a aeth ati i ddysgu fel oedolion, yn cynnwys cyngor ac arweiniad arbenigol ar ailhyfforddi, Cyfrifon Dysgu Personol, gofal plant a dileu swyddi.

Digwyddiad Agored Dysgu Gydol Oes

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad agored ar ddydd Mercher, 25 Medi rhwng 4 a 7yh.

Yn ystod y digwyddiad galw heibio anffurfiol hwn gallwch ddarganfod pa gyrsiau Dysgu Gydol Oes fydd ar gael eleni a sut i gofrestru. Gallwch hefyd weld ein hystafell addysgu newydd lle rydym yn bwriadu cyflwyno llawer o'n cyrsiau ymarferol mewn nifer o feysydd pwnc.

Bydd ein tiwtoriaid celf yn arddangos technegau dylunio amrywiol, bydd ein staff wrth law i ddweud mwy wrthych am Ddysgu Gydol Oes, bydd arddangosiad o'r cyrsiau sydd ar gael mewn meysydd pwnc eraill a gallwch fwynhau diod a sgwrs.

Byddwn hefyd yn croesawu Tony Orme i'r Noson Agored. Bydd Tony ar gael i ddweud mwy wrthych am Wobr Menter Aber gwerth £10,000 Prifysgol Aberystwyth y gall ein Dysgwyr Gydol Oes wneud cais amdani.

Mae Tony hefyd yn trefnu Wythnos Dechrau Busnes gyda gweithdai rhyngweithiol i'ch helpu i feithrin y sgiliau i helpu i roi hwb i'ch syniadau busnes. Gall myfyrwyr Dysgu Gydol Oes cofrestredig fynychu'r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim.

Rydym hefyd yn gobeithio croesawu busnesau eraill o'r ardal gan gynnwys Menter Aberystwyth.

Felly os ydych chi'n chwilio am ffyrdd o wella eich sgiliau yn y gweithle, cynyddu eich cyflogadwyedd neu'n ystyried dechrau busnes, dyma'r lle i fod!

Wedi'n lleoli ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth ac yn rhan o gyfleuster IBERS, ein cartref fydd Adeilad Milford, adeilad coeth o’r 1930au, ychydig filltiroedd y tu allan i Benrhyncoch. Mae gan yr adeilad trawiadol hwn gyfoeth o hanes ac ar un adeg roedd yn rhan o ystâd y teulu Pryse, Gogerddan.

Dim ond 15 munud ar droed ydym ni o Orsaf Drenau Bow Street ac mae'r adeilad ar lwybr bws Penrhyncoch (gwasanaeth bob awr, Rhif 526). Os ydych chi'n feiciwr, dilynwch lwybr beicio Bow Street.

Mae gan yr adeilad lle parcio am ddim, mynediad cyfleus i bobl anabl, cegin, ardal dawel a chaffi ar draws y ffordd. Mae'r ystafell addysgu yn olau ac yn awyrog, ac mae ganddi fynediad i Wi-Fi y Brifysgol.

Mae'r adeilad o fewn cyrraedd hawdd i goetir a mannau gwyrdd a fydd yn cyfoethogi eich dysgu ar gyfer rhai o'r cyrsiau ymarferol.

Mae map o'r adeilad ar gael yma.

Sesiynau Blasu

Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau blasu 1 awr. Mae'r sesiynau'n agored i unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy am gyrsiau penodol neu sydd am gael rhagor o wybodaeth am fanteision dysgu gydol oes a'r cyfleoedd astudio sydd ar gael.

Bydd tiwtor y cwrs yn cyflwyno sesiwn nodweddiadol fel y gall dysgwyr brofi 'gwers' a deall y dull cyflwyno. Bydd staff gweinyddol ac academaidd Dysgu Gydol Oes wrth law cyn ac yn dilyn pob sesiwn i siarad â darpar ddysgwyr, i fynd i'r afael ag ymholiadau ac i leddfu unrhyw bryderon. Bydd dysgwyr presennol yno er mwyn darparu cipolwg gwirioneddol ar astudio gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Cynhelir sesiynau blasu yn yr Ieithoedd canlynol ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, 24ain a 25 Medi rhwng 5pm a 7pm:

Dydd Mawrth 24ain:

  • 5pm: Rwsieg
  • 6pm: Tsieinëeg

Dydd Mercher 25ain:

  • 5pm: Groeg
  • 6pm: Sbaeneg

Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn Ystafell C43, Adeilad Hugh Owen, Campws Penglais, Aberystwyth. Gellir gweld map o'r lleoliad yma.

Adborth

Caiff Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Rydym yn sefydliad polisi, ymchwil a datblygu sy'n ymroddedig i gyflogaeth lawn, dysgu gydol oes a chynhwysiant.

Rydym yn gofyn i bobl a gymerodd ran mewn digwyddiadau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion gwblhau arolwg adborth byr i'n helpu i wella a siapio ymgyrchoedd yn y dyfodol. Diolch.

Ffurflen Adborth Cyfrwng Cymraeg

Am wybodaeth pellach am ein digwyddiadau yn ysto Wythnos Addysg Oedolion, ebostiwch dysgu@aber.ac.uk