Sgiliau Dwyieithog i’r Gweithle 2

 

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle.  

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 14 Wythnos 

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Tamsin Davies

Dull Dysgu: Ar-lein

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC

Cod y Modiwl: YD10210

Ffi: £150.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

 

Disgrifiad

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle.  Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau sy’n dangos sgiliau cyflogadwyedd craidd, megis gweithdai, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant ar-lein, ac ysgrifennu dyddlyfr adfyfyriol (reflective journal) anffurfiol. Mae’r modiwl hwn yn cydnabod pum sgil graidd sy’n bwysig i’r gweithle:

  • Gwerthoedd moesegol a chynaliadwyedd
  • Ymwybyddiaeth sefydliadol
  • Ymwybyddiaeth ddiwylliannol
  • Datrys problemau
  • Gwaith tîm

Bydd y modiwl hefyd yn darparu cefnogaeth i'r rhai llai hyderus eu Cymraeg i gryfhau eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle.

Dyddiadau

9 Chwefror 2026 – 30 Ebrill 2026

Canlyniadau Dysgu 

  1. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.
  2. Myfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y modiwl.
  3. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys cymathu, datrys problemau a gweithio gydag eraill.
  4. Cymhwyso eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle.

Asesiadau 

Dyddlyfr hunan-fyfyrio - 100%

Cynnwys

  1. Gwerthoedd moesegol a chynaliadwyedd

Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

  • Gwerthoedd yn y gweithle
  • Sesiynau SgiliauAber
    • hanfodion cyfeirnodi
    • defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol yn eich astudiaethau
  • Adnodd a chwis cyfeirnodi’r llyfrgell 
  1. Ymwybyddiaeth sefydliadol

Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:

  • Paratoi at gyfweliad
  • Creu ac addasu CV
  • Ymweld â ffeiriau gyrfaoedd/digwyddiadau cyflogwyr

NEU

  • Cwrs Datblygiad Proffesiynol allanol priodol 
  1. Ymwybyddiaeth ddiwylliannol

Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:

  • Ymwybyddiaeth iaith
  • Sesiynau SgiliauAber:
    • Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
    • Cymraeg creadigol 
  1. Datrys problemau

Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:

  • Gwneud penderfyniadau gyrfa
  • Sesiynau SgiliauAber
    • Defnyddio adborth
    • Sgiliau arholiad
    • Termau Cymraeg 
  1. Gwaith tîm

Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:

  • Sesiwn llunio poster gan ddefnyddio gwerthuso gan gyd-fyfyrwyr

NEU

  • Aelodaeth o bwyllgor mewn cymdeithas, aelodaeth o bwyllgor staff-myfyrwyr

NEU

  • Cwrs Datblygiad Proffesiynol allanol priodol