Sgiliau Dwyieithog i’r Gweithle 2
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 14 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Dr Tamsin Davies
Dull Dysgu: Ar-lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD10210
Ffi: £150.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Disgrifiad
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle. Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau sy’n dangos sgiliau cyflogadwyedd craidd, megis gweithdai, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant ar-lein, ac ysgrifennu dyddlyfr adfyfyriol (reflective journal) anffurfiol. Mae’r modiwl hwn yn cydnabod pum sgil graidd sy’n bwysig i’r gweithle:
- Gwerthoedd moesegol a chynaliadwyedd
- Ymwybyddiaeth sefydliadol
- Ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- Datrys problemau
- Gwaith tîm
Bydd y modiwl hefyd yn darparu cefnogaeth i'r rhai llai hyderus eu Cymraeg i gryfhau eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle.
Dyddiadau
9 Chwefror 2026 – 30 Ebrill 2026
Canlyniadau Dysgu
- Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.
- Myfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y modiwl.
- Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys cymathu, datrys problemau a gweithio gydag eraill.
- Cymhwyso eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle.
Asesiadau
Dyddlyfr hunan-fyfyrio - 100%
Cynnwys
- Gwerthoedd moesegol a chynaliadwyedd
Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:
- Gwerthoedd yn y gweithle
- Sesiynau SgiliauAber
- hanfodion cyfeirnodi
- defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol yn eich astudiaethau
- Adnodd a chwis cyfeirnodi’r llyfrgell
- Ymwybyddiaeth sefydliadol
Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:
- Paratoi at gyfweliad
- Creu ac addasu CV
- Ymweld â ffeiriau gyrfaoedd/digwyddiadau cyflogwyr
NEU
- Cwrs Datblygiad Proffesiynol allanol priodol
- Ymwybyddiaeth ddiwylliannol
Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:
- Ymwybyddiaeth iaith
- Sesiynau SgiliauAber:
- Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
- Cymraeg creadigol
- Datrys problemau
Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:
- Gwneud penderfyniadau gyrfa
- Sesiynau SgiliauAber
- Defnyddio adborth
- Sgiliau arholiad
- Termau Cymraeg
- Gwaith tîm
Rhaid dangos 2 awr o weithgareddau:
- Sesiwn llunio poster gan ddefnyddio gwerthuso gan gyd-fyfyrwyr
NEU
- Aelodaeth o bwyllgor mewn cymdeithas, aelodaeth o bwyllgor staff-myfyrwyr
NEU
- Cwrs Datblygiad Proffesiynol allanol priodol