Pwythau Brodwaith o Waith Llaw
Bydd y cwrs wyneb yn wyneb hwn (gyda gwybodaeth gefnogol ychwanegol ar Blackboard) yn ymdrin â thraddodiad pwytho'r Sampler Cymreig o ganol yr 1800au; ei darddiad a'i bwythau. Cyfeirir at Dapestri'r Goresgyniad Olaf o Abergwaun a grëwyd gan gymuned o frodwyr. Bydd y myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau dosbarth a phrosiectau hunangyfeiriedig yn ystod y cwrs, gan greu darn bach a chynllunio darn mwy y gellir ei gwblhau ar ôl i'r cwrs orffen. Gan ddefnyddio pwythau sylfaenol ac edafedd llachar, byddwch yn creu gwrthrych hardd wedi'i bersonoli.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 7 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Eleri Gould
Dull Dysgu: Wyneb yn wyneb
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD15410
Ffi: Am Ddim - Cynlun Hepgor Ffioedd (gweler yr amodau isod
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)
Amlinell
Bydd y cwrs wyneb yn wyneb hwn (gyda gwybodaeth gefnogol ychwanegol ar Blackboard) yn ymdrin â thraddodiad pwytho'r Sampler Cymreig o ganol yr 1800au; ei darddiad a'i bwythau. Cyfeirir at Dapestri'r Goresgyniad Olaf o Abergwaun a grëwyd gan gymuned o frodwyr. Bydd y myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau dosbarth a phrosiectau hunangyfeiriedig yn ystod y cwrs, gan greu darn bach a chynllunio darn mwy y gellir ei gwblhau ar ôl i'r cwrs orffen. Gan ddefnyddio pwythau sylfaenol ac edafedd llachar, byddwch yn creu gwrthrych hardd wedi'i bersonoli.
Rhaglen y Cwrs
Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda thrafodaeth ac eglurhad o gyd-destun pwnc y dydd. Bydd y myfyrwyr yn copïo enghraifft ac yn cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu wrth greu cynllun ar gyfer prosiect personol.
- Sesiwn Un:
Trosolwg cyffredinol o'r cynnwys: Sampleri Cymreig cynnar
Creu borderi gyda phwythau cyfunol. Cychwyn llyfr cofnod pwythau
Arddangosiad gan y tiwtor. Pwyth ôl wedi'i chwipio, Pwyth Satin, Cwlwm Ffrengig a gwaith Torri
Astudiaeth gartref: Dyluniadau ar gyfer brodwaith micro - Sesiwn Dau:
Trafodaeth grŵp: Beth allwn ni ei ddysgu o dapestri'r Goresgyniad Olaf?
Arddangosiadau Pwyth cadwyn gyda dau liw, Pwyth Rhosyn, cyflwyno clymu ac edafu rhuban
Creu eirlys yn y dosbarth - Sesiwn Tri:
Trosglwyddo dyluniad i ddefnydd. Arddangosiad
Pwyth Hollt, Pwyth Syth Troëdig a chyflwyno gleiniau hadau
Trafodaeth ar Frodwaith Edafedd
Astudiaeth Gartref: dechrau ar forder y prosiect personol - Sesiwn Pedwar:
Defnyddio Edau Lin Garw.
Asesiad o frodwaith micro
Astudiaeth gartref: Parhau â’r prosiect personol - Sesiwn Pump:
Hirbwytho a byrbwytho i raddliwio
Dewis deilen neu flodyn ar gyfer y llyfr cofnod
Pwyth hollt a chymysgu lliwiau Pwytho cyfeiriadol i greu gwahanol effeithiau - Sesiwn Chwech
Pwyth Satin Cwiltiog i greu buwch goch gota neu chwilen. Defnyddio edafedd metelig
Tiwtorialau personol - Sesiwn Saith
Cyflwyno’r prosiect personol, nid oes angen i hwn gael ei gwblhau, ond gellir dangos cynllun.
Pwyth asgwrn pysgodyn a dangos banc pwythau yr Ysgol Frenhinol Gwniadwaith i'r myfyrwyr.
Enghraifft o bwyth criwl ar thema pomgranad.
Asesiad o'r llyfr cofnod a'r prosiect hunangyfeiriedig
Canlyniadau Dysgu
- Llunio bwrdd syniadau gan ddefnyddio cyfuniad o'r sgiliau a ddysgwyd
- Cofnodi'r broses a'r canfyddiadau yn y llyfr cofnod
- Gwneud a dangos gwaith ymchwil ar gyfer y darn astudiaeth gartref
Asesiadau
- Cwblhau bwrdd sampl
- Cofnod cwrs o bwythau a samplau
- Creu bwrdd syniadau ar gyfer cynllun ac ymchwil