Paentio Portreadau
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu astudiaeth o dechnegau olew, grwndiau, theori a chymysgu lliw trwy genre portread. Bydd y pwyslais ar ymarfer creu portreadau yn ogystal â thrafodaeth fydd yn edrych ar swyddogaeth newidiol portreadau o ganlyniad i ffotograffiaeth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 4 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Rhys Pugh
Dull Dysgu: Wyneb i wyneb
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD11410
Ffi: £170.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)
Amlinell
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu astudiaeth o dechnegau olew, grwndiau, theori a chymysgu lliw trwy genre portread. Bydd y pwyslais ar ymarfer creu portreadau yn ogystal â thrafodaeth fydd yn edrych ar swyddogaeth newidiol portreadau o ganlyniad i ffotograffiaeth. Bydd ffolio o waith o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd yn dangos y sgiliau paentio tonyddol sy’n angenrheidiol i gynhyrchu cyfres o hunanbortreadau a phortreadau. Anogir y myfyrwyr i ddod â'u model eu hunain i ddosbarthiadau penodol. Bydd hyn yn cael ei ddysgu mewn siarcol a phaent.
Rhaglen y Cwrs
- Tarddiad portreadau, swyddogaeth portreadau a'r angen am bortreadau wedi eu paentio a'u lluniadu.
- Dyfodiad y camera a'i ddylanwad
- Portread fel ffordd o fynegi emosiwn
- Lliw adlewyrchol
- Gwneud marciau; arddangosiadau sgiliau mapio o sgiliau lliw, tôn a chymysgu;
- Braslunio a phaentio trwy ddrychau; edrych ar oleuni a'i effeithiau, lliw wedi'i adlewyrchu ac ati.
- Gwaith grŵp i ddatblygu syniadau ar themâu a syniadau penodol sy'n gysylltiedig â'r pwnc.
- Dogfennu gweithgareddau, dulliau a deunyddiau.
- Trafodaeth: astudiaethau cymharol o ddau bortread
- Mae'r artistiaid a drafodir yn cynnwys: Ryn Van Rembrandt, Thomas Gainsborough, Paul Cézanne, Titian, Diego Velasquez, Vincent Van Gogh, Anthony Van Dyke, David Hockney, Pablo Picasso, Augustus John, Graham Sutherland, Frida Kahlo Nicholas Hilliard, Lucien Freud, Francis Bacon, Julian Opie, TaiShan Schierenberg.
Canlyniadau Dysgu
- Dangos ymwybyddiaeth o baentio mewn tôn a llinell yn ogystal ag effeithiau golau, lliw wedi'i adlewyrchu ar y wyneb, a mireinio cyfansoddiad a sgiliau theori lliw.
- Astudio a chymharu gwaith dau baentiwr portreadau neu baentiadau.
- Arddangos yn y ffolio a'r dyddiadur; astudiaethau a gynhaliwyd gyda ffynonellau gwreiddiol a ffynonellau eilaidd.
- Llunio portffolio o ddelweddau a wnaed yn y dosbarth ac astudiaethau hunangyfeiriedig.
Asesiadau
- Portfoliio - 70%
- Cyflwyniad ysgrifenedig - 10%
- Adroddiad - 20%
Beth sydd ei angen arnaf?
- Llyfr braslunio
- Pensiliau arlunio: B, 2B
- Sialc gwyn neu sialc lliw golau. Rwber a rwber pwti neu fara ar gyfer y siarcol
- Cloth neu feinwe ar gyfer smwddio(Smudging)
- Palet neu plât gymysgu neu teil
- Tâp masgio
- Hairspray neu gweithredydd(fixative)
- Pegiau dillad neu debyg ar gyfer dal y papur
- Brwsys acrylig
Bydd ail hanner y cwrs yn symud ymlaen o arlunio i baentio, gan ganolbwyntio ar gyfleu lliw a lliw myfyriol mewn acrylig, bydd deunyddiau sydd gennych yn ddefnyddiol, yn enwedig – brwsh pen gwastad, brws manwl, Brwsh Fan, papur ymarfer.
Mae brwsys defnyddiol eraill yn cynnwys – Brwsys Crwn, Brwsh Filbert, cyllell palet ac unrhyw frwsys eraill rydych chi am ddod â nhw ond mae'r tri cyntaf uwchben yn hanfodol