Arlunio i Bawb
Arlunio i Bawb: Cyflwyniad ymarferol i gyfryngau, technegau a sgiliau celf a dylunio 2D
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 4 Sesiwn
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Kim James-Williams
Dull Dysgu: Wyneb i wyneb
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XK18310
Ffi: Am Ddim - Cynllun Hepgor Ffioedd (gweler yr amodau isod).
Diolch i gefnogaeth ariannol gan 'Medr' trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)
Manylion am y cwrs
Dyddiadau:
Mehefin 3, 10, 17 a 24, 2025 rhwng 6yh a 9yh
Lleoliad:
Adeilad Milford, Campws Gogerddan
Amlinell
A oes diddordeb gyda ti mewn celf ond dim yn siwr sut i ddechrau?
Neu efallai bod ti’n dychwelyd i’r byd celf a wedi colli hyder, neu falle moyn sialens, dysgu sgiliau newydd, a hynny mewn awyrgylch ymlaciol.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio, dysgu a datblygu sgiliau sylfaenol celf sy’n cynnwys braslunio (pensil, siarcol ac inc) a phaentio (blas o dyrfliw, acrylig a collage).
Bydd pedwar sesiwn wyneb i wyneb yn darparu cyfle i arbrofi gyda amriw cyfryngau a dysgu am eu priodweddau gwahanol. Bydd tasgau focws i gyflwyno technegau, syniadau i brosiectau byr a chyfle i estynnu ac ymarfer dy hoff sgil newydd i greu darn o waith celf. Bydd cyflwyniad i termau celfyddol a cyfryngau gwahanol