Seicoleg

 

Gwyddoniaeth y Meddwl ac Ymddygiad yw Seicoleg. Golyga hyn ei fod yn bwnc eang sy'n ceisio deall ymddygiad dynol, o'r esboniadau biolegol o'r ffordd y mae'r ymennydd yn gweithio i'r ddealltwriaeth gymdeithasol o'r ffordd rydym ni'n rhyngweithio gyda'n hamgylchedd ac yn addasu iddo, neu'n newid yn wybyddol wrth fynd yn hŷn.  

Yn ymarferol, gall Seicoleg olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Efallai ein bod yn awyddus i ddeall pam fod rhywun yn hapus neu'n unig; pam fod yr ymennydd yn cofio rhai pethau ddigwyddodd pan oeddem yn bump oed ond yn anghofio beth sydd ar y rhestr siopa heddiw; pam rydym ni'n dewis prynu'r pethau a brynwn; sut mae gwleidyddion yn ennill ein ffydd... neu beidio!

Seicoleg yw'r holl bethau hyn a llawer mwy - dyna sy'n ei wneud mor ddiddorol - mae rhywbeth yn y pwnc at ddant pawb.