Rhesymau dros astudio gyda ni

 

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ar bob lefel ac ar adegau sy’n addas i chi.

P’un a ydych chi’n astudio gyda ni er mwyn datblygu’n bersonol, i wella eich rhagolygon gyrfa, neu i ddatblygu eich gwybodaeth am bwnc rydych chi’n ymddiddori ynddo, gallwch ddisgwyl addysg hyblyg o’r safon uchaf.

Dysgu sy’n gweddu i chi

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer llawer o’n cyrsiau, yr oll yr ydych chi ei angen yw diddordeb mewn pwnc a pharodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill.Am ein bod am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi astudio gyda ni, trefnir cyrsiau yn ystod y dydd, gyda’r nosau ac ar benwythnosau.

Mae nifer o’r cyrsiau ar gael ar-lein, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio o gartref. Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion sydd gennych gyda’n Ymgynghorydd Anabledd, p’un a ydynt yn ymwneud â mynediad i adeiladau, neu gymhorthion dysgu.

Profiad y myfyrwyr

Byddwch yn cael eich addysgu gan diwtor Prifysgol Aberystwyth sy’n arbenigo yn eu pwnc ac sydd â phrofiad mewn dysgu oedolion mewn addysg. Byddant yn eich cefnogi ac yn cynnig arweiniad i chi wrth i chi astudio.

Fel arfer, mae dosbarthiadau’n fach, sy’n ei gwneud hi’n haws cynnal trafodaethau ac sy’n galluogi mwy o amser i’r tiwtor roi sylw i’ch anghenion unigol chi.

Mae ymdeimlad cryf o gymuned yn perthyn i’n cyrsiau, gan roi’r cyfle i chi gyfarfod pobl newydd a chyfrannu at drafodaethau diddorol.

Dysgwch fwy am y cyrsiau sydd ar gael i bawb gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cymwysterau a chredydau’r Brifysgol

Gallwch ennill credydau tuag at gymwysterau pan fyddwch yn cwblhau’r gwaith a’r asesiadau gofynnol.

Mae’r credydau hyn yn rhan o gynllun cenedlaethol, sy’n golygu eu bod yn cael eu cydnabod gan y rhan fwyaf o brifysgolion a sefydliadau addysgol. Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch am barhau â’ch astudiaethau mewn man arall. Rydym hefyd wedi datblygu cymhwysterau Tystysgrif Addysg Uwch mewn nifer o bynciau. Mwy o wybodaeth yma 

Dysgwch fwy am y cymwysterau sydd ar gael i bawb gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu

Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y byddwch yn gymwys i gael eich ffioedd wedi'u hepgor o dan gynllun Hepgor Ffioedd Israddedig Rhan Amser Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cynllun hepgor ffioedd i gefnogi myfyrwyr na fyddai ganddynt fynediad at addysg uwch fel arall (yn amodol ar argaeledd). Bydd CCAUC yn talu ffioedd myfyrwyr cymwys.

Dysgwch fwy am y Cynllun Hepgor Ffioedd 

Cyfleusterau ac adnoddau'r Brifysgol
Pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs, byddwch yn dod yn fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth drwy gydol eich astudiaethau. Mae hyn yn golygu bod gennych fynediad i ostyngiadau myfyrwyr, ein llyfrgelloedd a'n cyfleusterau cyfrifiadura.

Dysgwch fwy am y gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes

Am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Os ydych chi'n fyfyriwr neu'n aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim.

Cynigir cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn ychwanegol at eich gradd a gellir eu cymryd heb ymyrryd â'ch amserlen israddedig neu uwchraddedig. Mae'r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau achrededig addysg uwch sydd wedi'u cynnwys yn eich cofnod myfyriwr academaidd.

Ochr yn ochr â'ch rhaglen radd, mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu astudio un modiwl y tymor yn rhad ac am ddim.

Manteisiwch ar y cyfle hyn i wella'ch sgiliau a datblygu diddordebau newydd a fydd yn eich gwneud yn fwy deniadol fyth i gyflogwyr ar ôl i chi orffen eich gradd, ac a fydd yn eich rhoi un cam ar y blaen i'r gystadleuaeth.

Dysgwch fwy am y gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth