Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol.

 

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 6 Wythnos

Nifer y Credydau: 05

Tiwtor:

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 3 FfCChC  

Cod y Modiwl: YD03905

Ffi: £70.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd 

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Amlinell

Mae'r cyfryngau cymdeithasol bellach yn cael eu defnyddio fel y prif gyfrwng i gyfeirio cwsmeriaid at wefannau. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i chi sefydlu twndis marchnata. Bydd y pynciau'n cynnwys dysgu ysgrifennu mewn arddull sy’n cyd-daro ag anghenion eich cwsmer, creu cynllun a llunio hashnodau o ansawdd sy'n targedu eich cynulleidfa ac yn denu cwsmeriaid newydd.

 

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r rhai sydd ar y cwrs fod yn gallu:  

  1. Creu cyfres o hashnodau ar gyfer ymgyrch
  2. Llunio ymgyrch farchnata.
  3. Dadansoddi ymgyrch sydd eisoes yn bodoli (Astudiaeth Achos)

Rhestr Darllen

Reading suggestions will be offered throughout the course. 

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.  

Beth sydd ei angen arnaf? 

Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch: 

  • Mynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd. 
  • Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.