Cymwysterau

 

Mae cwblhau ein cyrsiau rhan-amser yn llwyddiannus yn eich galluogi i ennill credydau y gellir eu defnyddio tuag at gymwysterau addysg uwch.

Y cymhwyster y gallwch astudio tuag atynt ym maes Ieithoedd Modern yw:

Tystysgrif Addysg Barhaus

Mae hwn yn ddyfarniad adrannol y byddwch chi’n ei gyflawni pan fyddwch yn ennill 120 credyd mewn un maes pwnc.

Tystysgrif Addysg Uwch

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) yn rhaglen rhan amser o gyrsiau byrion, sy’n dod i gyfanswm o 120 o gredydau, ac yn arwain at gymhwyster israddedig Prifysgol.

Mae'r TAU yn cynnwys 120 credyd ac mae ein cyrsiau'n amrywio o 5, 10 ac 20 credyd yr un. Mae gan bob TAU ei Fframwaith ei hun y cytunwyd arno gan y Brifysgol. Mae’r Fframwaith yn amlinellu'r cyrsiau sydd ar gael ac unrhyw gyrsiau penodol y mae'n rhaid eu hastudio er mwyn ennill y TAU (cyrsiau craidd).

Mae gan fyfyrwyr hyd at bum mlynedd i gwblhau'r TAU ac yn ystod y cyfnod hwn gallant astudio cyrsiau ar eu cyflymder eu hunain. Nid yw pob cwrs yn cael ei gynnig bob blwyddyn ond rydym yn sicrhau amrywiaeth eang bob tymor gan gynnwys o leiaf un cwrs craidd.

Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru ar y TAU ac yna byddwch yn talu wrth i chi astudio pob cwrs. Mae cost cyrsiau yn dibynnu ar eu lefel a'u gwerth credyd (mae modiwl 10 credyd yn costio £130) felly uchafswm cost y TAU yw £1560 (ar sail ffioedd 2024 - 2025). Gallwch gofrestru ar y TAU ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn - mae'n well gan rai myfyrwyr astudio ychydig o gyrsiau cyn ymuno â'r rhaglen TAU. Bydd unrhyw gyrsiau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus yn cyfrif tuag at y cymhwyster terfynol.

Nid oes gan yr un o'n cyrsiau arholiadau – cynhelir asesiad myfyrwyr drwy aseiniadau wedi'u trefnu sy'n berthnasol i feysydd pwnc y cwrs. Gall aseiniadau gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, profion ar-lein, traethodau ymchwiliedig, cyfnodolyn gwaith ac ati.

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ieithoedd Modern yn cynnwys 120 credyd, ac mae'n rhaid cymryd 40 o'r Cyrsiau Uwch ac ar yr un iaith. Gellir dewis yr 80 credyd sy'n weddill o unrhyw un o'r cyrsiau eraill, ac o unrhyw un o'r ieithoedd ar y rhaglen.

 

Dechreuwyr Canolradd Uwch
O ddechreuwyr llwyr i TGAU sylfaenol
(10 credyd)
O TGAU sylfaenol i Safon Uwch sylfaenol
(20 credyd) 
 Ar ôl Safon Uwch
(20 credyd)
Dechreuwyr 1
Dechreuwyr 2
Dechreuwyr 1
Dechreuwyr 2 
Canolradd
Canolradd Uwch
Uwch 1
Uwch 2

Cyrsiau eraill mewn rhai ieithoedd. Mae'r holl gyrsiau hyn yn 20 credyd.

Ffrangeg
Itinéraires culturels et littéraires I
Itinéraires culturels et littéraires II
La France Profonde I
La France Profonde II
Almaeneg
Buntes Kaleidoskop für Redekünstler I
Buntes Kaleidoskop für Redekünstler  II
German Cinema
Rwsieg
Russian Studies for Advanced Students I
Russian Studies for Advanced Students II
Sbaeneg
Cultura Hispánica I
Cultura Hispánica II