Cymwysterau

 

Mae cwblhau ein cyrsiau rhan-amser yn llwyddiannus yn eich galluogi i ennill credydau y gellir eu defnyddio tuag at gymwysterau addysg uwch.

Rydym yn cynnig sawl cymhwyster y gallwch astudio tuag atynt:

Tystysgrif Addysg Barhaus

Mae hwn yn ddyfarniad adrannol y byddwch chi’n ei gyflawni pan fyddwch yn ennill 60 credyd mewn un maes pwnc.

Tystysgrif Addysg Uwch

Dyfernir y cymhwyster hwn, sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, pan fyddwch yn ennill 120 credyd Lefel 4 o unrhyw gyfuniad o gyrsiau.

Mae Tystysgrif Addysg Uwch ar gael yn y meusydd canlynol:

  • Celf a Dylunio
  • Ecoleg Maes
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Astudiaethau Hanes Naturiol
  • Astudiaethau Hel Achau
  • ieithoedd Modern

Diploma Addysg Uwch

Mae’r cymhwyster hwn yn ddyfarniad lefel 5 ac fe’i ddyfernir pan fyddwch yn ennill 120 credyd Lefel 5 o unrhyw gyfuniad o gyrsiau.

Mae Diploma Addysg Uwch ar gael ym maes Ecoleg Maes a Chadwriaeth.

Ymgeisio ar gyfer Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch

Sut mae credydau’n gweithio

Mae credydau’n rhan o gynllun cenedlaethol sy’n eich galluogi i weithio tuag at dyfarniad a gydnabyddir yn genedlaethol yn y rhan fwyaf o brifysgolion y DU.

Fel arfer mae credydau’n cael eu neilltuol i uned astudio mewn lluosrifauau o 5 neu 10. Maen nhw’n rhoi syniad o’r lefel yr ydych chi’n gweithio arni, a faint o waith sydd wedi’i gynnwys ac yn rhoi cydnabyddiaeth eich bod wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r Brifysgol yn galw pob uned astudio yn fodiwl ac fel arfer mae pob modiwl werth 10, 20 neu 30 credyd. Rydym wedi galw’r modiwlau hyn yn “gyrsiau”. Gallwch ddarganfod nifer y credydau ar gyfer pob cwrs drwy chwilio am gwrs.

Dyfernir un o lefelau Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol i’r holl gymwysterau achrededig, a gefnogir gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Diben y fframwaith yw eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am y cymwysterau yr hoffech eu cael.

Cynigir credydau Dysgu Gydol Oes ar lefelau gwahanol fel a ganlyn:

Lefel 3 - cyfateb i astudiaeth lefel cyn safon gradd

Lefel 4 - cyfateb i astudiaeth israddedig y flwyddyn gyntaf

Lefel 5 - cyfateb i astudiaeth israddedig yr ail flwyddyn

Nid yw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau yn gofyn am unrhyw gymwysterau blaenorol ond noder bod rhai cyrsiau Lefel 5 yn gofyn am brofiad neu gymwysterau blaenorol.