Cyllido a thalu am eich dysgu.
Ffioedd y cwrs
Mae’r gost o astudio cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn dibynnu ar eu lefel a'u gwerth credyd. Gellir dod o hyd i ffioedd pob cwrs ar dudalennau'r cwrs unigol.
Os ydych chi'n fyfyriwr neu'n aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Cynllun Hepgor Ffioedd Dysg
Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y byddwch yn gymwys i gael eich ffioedd wedi'u hepgor o dan gynllun Hepgor Ffioedd Israddedig Rhan Amser Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cynllun hepgor ffioedd i gefnogi myfyrwyr na fyddai ganddynt fynediad at addysg uwch fel arall (yn amodol ar argaeledd). Bydd CCAUC yn talu ffioedd myfyrwyr cymwys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hepgor ffioedd mae’n rhaid ichi fodloni’r canlynol:
- Mae’n rhaid ichi beidio ag astudio mwy na 20 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon
- Rhaid bod yn byw yng Nghymru
Yn ogystal, mae rhaid ichi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Rydych yn dod o ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu o gyfranogiad isel mewn addysg uwch
- Rydych yn derbyn budd-daliadau sy’n eich gwneud yn gymwys fel Universal Credit
- Rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
- Rydych chi'n ffoadur;
- Rydych yn geisiwr lloches
- Mae gennych chi anabledd
- Rydych yn ofalwr Rydych wedi Gadael Gofal neu wedi cael Profiad o Ofal
- Rydych chi'n ystyried eich hun yn LDHTC+
- Rydych yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth darllenwch Canllawiau Cynllun Hepgor Ffioedd
Cofiwch fod y cynllun hepgor ffioedd dysgu i fyfyrwyr yn amodol ar argaeledd.
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gofrestru sydd ar gaelFfurflen Gofrestru Cynllun Hepgor Ffioedd (Blwyddyn Academaidd 2023/2024)
Gall y broses hepgor ffioedd gymryd hyd at fis i'w chwblhau. Rhowch ddigon o amser i chi'ch hun cyn dechrau'r cwrs.
Nodwch: Bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus dalu'r ffi cyflawn os ydynt yn cofrestru ar gwrs ond yn methu â mynychu, neu gwblhau aseiniadau cwrs.
Talu drwy anfoneb
Os yw eich cyflogwr (ac eithrio’r Brifysgol) yn talu am y cwrs ac y byddai’n gwell ganddynt dalu drwy anfoneb bydd angen iddynt ddarparu rhif archeb. Dylid cynnwys hwn yn eich cais i’r cwrs. Os nad ydych yn gallu atodi rhif archeb. dylech gysylltu gyda ni.