Polisiau Dysgu Gydol Oes
POLISI CYFLWYNO GWAITH YN HWYR
Dyma'r camau i'w cymryd:
- Bydd angen i athrawon/tiwtoriaid roi gwybod i'w myfyrwyr am y dyddiadau cyflwyno ar gyfer pob aseiniad a fydd wedi’u nodi ar holl ddogfennau'r cwrs.
- Gall y dyddiad cyflwyno fod yn 1 mis calendr ar ôl y cwrs i gyflwyno gwaith heb gosb, yn ôl disgresiwn y Cydlynwyr gydag amgylchiadau penodol.
- Mae angen i'r myfyriwr a'r tiwtor hysbysu'r cydlynydd o unrhyw broblemau neu geisiadau am estyniadau. Bydd hyn yn cael ei gofnodi gan y Cydlynydd.
- Ar ôl y mis cyntaf, bydd yr aseiniad yn cael ei asesu a'i safoni yn y ffordd arferol, fodd bynnag, bydd 10% o'r marciau yn cael eu tynnu bob wythnos.
- Gallwn dderbyn gwaith hyd at 2 fis ar ôl y dyddiad cyflwyno, a bydd yr aseiniadau'n cael eu hasesu a'u safoni yn y ffordd arferol, ond dim ond hyd at farc pasio gaiff y myfyriwr: uchafswm o 40%. Ni fydd y gwaith a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn yn cael ei asesu.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG
Byddwn yn dilyn y canllawiau cyffredinol gan y Brifysgol (https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193260-cy.html)
Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddarllen gweithdrefnau cyhoeddedig eu hadrannau i gael gwybod am y drefn os na fu modd osgoi cyflwyno asesiad yn hwyr. Fel arfer, ni fydd Amgylchiadau Arbennig yn cael eu hystyried ond ar y seiliau canlynol, os oes dogfennaeth ategol briodol:
- Salwch – tymor byr neu hirdymor (gyda llythyr eglurhaol gan feddyg)
- Problemau personol/teuluol difrifol (e.e. profedigaeth deuluol, problemau llety mawr)
Ni fydd y materion isod yn cael eu gweld yn Amgylchiadau Arbennig:
- Problemau cyfrifiadurol (dylech sicrhau copïau wrth gefn digonol)
- Ciwiau argraffu (dylech reoli eich amser yn well)
- Methu cael gafael ar adnoddau (gallwch sicrhau nad yw hyn yn digwydd drwy cynllunio’n well)
- Salwch os nad oes gennych dystysgrif feddygol amdano
- Rheoli amser yn wael
- Dyddiad cau mwy nag un asesiad ar yr un diwrnod
- Methu ag ateb y cwestiwn neu’n ei chael hi’n anodd deall y deunydd
- Cynyrchiadau Perfformio, neu deithiau astudio Adrannol
- Gweithgareddau An-academaidd