Llawlyfr Dysgwyr
Croeso i Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth!
Bwriad Llawlyfr Dysgwyr yw'ch helpu chi i ddechrau ar Rhaglen Dysgu Gydol Oes ac i roi arweiniad i chi ar yr hyn a ddisgwylir gennych chi a phwy y dylech gysylltu â nhw i gael help a chyngor.
Mae'r Llawlyfr yn rhoi arweiniad i chi, er enghraifft, ar arfer academaidd annerbyniol, ar reolau'r Brifysgol ar gyfer cyflwyno aseiniadau a beth i'w wneud os aiff pethau o chwith. Ni fwriedir iddi fod yn ddogfen gynhwysfawr - efallai y bydd gennych rai cwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb ar dudalennau'r pecyn - os felly, cysylltwch â ni.
Cymerwch amser i edrych ar strwythur y cwrs, y briffiau aseiniadau a'r dyddiadau cau cyn i chi ddechrau astudio - bydd hyn yn eich galluogi i gynllunio'ch astudio o amgylch ymrwymiadau eraill.
Un o'r pethau allweddol i lwyddo a mwynhau'r cwrs yw cyfathrebu rheolaidd - gyda ni a gyda'ch cyd-fyfyrwyr. Mae gan ddysgu o bell y potensial i fod yn brofiad ynysig felly mae'n bwysig iawn cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun ac mae llawer o help a chefnogaeth ar gael - os gofynnwch amdano!
Mwynhewch eich cyfnod gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth!
Lifelong Learning Student Handbook