Defnyddio Timau Microsoft
Mae Timau Microsoft yn rhan o gyfres o raglenni Office365.
Mae'n cynnig offer ar gyfer gweithio ar y cyd, er engraifft:
- Sgwrs grŵp
- Cyfarfodydd fideo
- Rhannu ffeiliau
- Galwadau grŵp
Mae Timau Microsoft ar gael i bob aelod o staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd â chyfrif ebost y Brifysgol, a gellir ei gyrchu trwy ap symudol, ap bwrdd gwaith neu borwr gwe.
Mae Timau Microsoft yn ddelfrydol ar gyfer gweithio gyda grwpiau bach o bobl ar brosiectau tymor byr mewn amgylchedd cyflym ac anffurfiol.
Gwelir rhagor o wybodaeth ar sut i ddefnyddio Timau Microsoft yn ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Dimau Microsoft ac ein Hyfforddiant ac arweiniad Timau Microsoft