Defnyddio Blackboard

 

Blackboard yw amgylchedd dysgu rhithiol Prifysgol Aberystwyth.  

Mae Blackboard yn safle ar-lein ar gyfer pob cwrs, sy'n cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau ar gyfer cefnogi dysgu.

Mae gan Blackboard ystod o offer ar gyfer cyfathrebu, cydweithredu, asesu, adborth, myfyrio a rheoli cynnwys, ac mae'n darparu gofod ar-lein ar gyfer gweithgareddau i gefnogi dysgu.

Gellir mewngofnodi i Blackboard o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â'r Rhyngrwyd gan ddefnyddio porwr - rydym yn argymell defnyddio Firefox neu Chrome ar gyfer Blackboard.

Gwybodaeth, cyfarwyddiadau a chefnogaeth pellach i ddefnyddio Blackboard