Cwblhau eich Cofrestriad ac Actifadu Eich Cyfrif Prifysgol

 

Mae'n hanfodol eich bod yn actifadu eich cyfrif myfyriwr unigryw ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn i'ch cwrs ddechrau, fel y gallwch gael mynediad i'r amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a mynychu gweminarau a thiwtorialau trwy Microsoft Teams.

Cliciwch yma a dilynwch y cyfarwyddiadau i'ch actifadu cyfrif myfyriwr. Bydd angen eich rhif cyfeirnod myfyriwr personol, sydd wedi'i gynnwys yn eich e-bost croeso oddi wrth Dysgu Gydol Oes.

Ar ôl i chi gwblhau'r broses hon gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth yma.

Gwybodaeth bwysig i staff Prifysgol Aberystwyth: Hyd yn oed os ydych yn aelod o staff sydd â chyfrif staff PA bydd angen i chi actifadu cyfrif myfyriwr ar wahân o hyd i gael mynediad i'ch cwrs.  Bydd gennych gyfrif mewngofnodwch ac e-bost myfyriwr fel y gallwch gael mynediad i'ch cwrs ar Blackboard a chyfeirio â'ch tiwtor.