Cynllun Hepgor Ffioedd
Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y byddwch yn gymwys i gael eich ffioedd wedi'u hepgor o dan Gynllun Hepgor Ffioedd Israddedig, Rhan Amser Medr - Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Gyda chyllid gan Medr, mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun hepgor ffioedd i gefnogi myfyrwyr na fyddai ganddynt fynediad at addysg uwch fel arall (yn amodol ar argaeledd). Bydd Medr yn talu ffioedd myfyrwyr cymwys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hepgor ffioedd mae’n rhaid ichi fodloni’r canlynol:
- Mae’n rhaid ichi beidio ag astudio mwy na 25 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon
- Rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
Yn ogystal, mae rhaid ichi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Rydych yn dod o ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu o gyfranogiad isel mewn addysg uwch;
- Rydych yn derbyn budd-daliadau sy’n eich gwneud yn gymwys, fel Universal Credit;
- Rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig;
- Rydych chi'n ffoadur;
- Rydych yn geisiwr lloches;
- Mae gennych chi anabledd;
- Rydych yn ofalwr;
- Rydych wedi Gadael Gofal neu wedi cael Profiad o Ofal;
- Rydych chi'n ystyried eich hun yn LDHTC+;
- Rydych yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o gyfeiriad eich cartref, megis trwydded yrru, bil cyfleustodau neu lythyr dyfarnu budd daliadau sydd wedi'i ddyddio o fewn y chwe wythnos diwethaf. Derbynnir ffotograffau.
Am fwy o wybodaeth darllenwch ein Canllawiau Cynllun Hepgor Ffioedd
I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)
Cofiwch fod y cynllun hepgor ffioedd dysgu i fyfyrwyr yn amodol ar argaeledd.
Gall y broses hepgor ffioedd gymryd hyd at fis i'w chwblhau. Rhowch ddigon o amser i chi'ch hun cyn dechrau'r cwrs.
Nodwch: Bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus dalu'r ffi cyflawn os ydynt yn cofrestru ar gwrs ond yn methu â mynychu, neu gwblhau aseiniadau cwrs.