Lefel Academaidd Cyrsiau Dysgu Gydol Oes
Dyfernir un o lefelau Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol i’r holl gymwysterau achrededig, a gefnogir gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Diben y fframwaith yw eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am y cymwysterau yr hoffech eu cael. Bydd y tabl isod yn eich helpu i gysylltu lefel y cyrsiau a gynigir gan Dysgu Gydol Oes ag unrhyw gyrsiau y gallech fod wedi’u hastudio o’r blaen. Cofiwch - Nid oes raid i chi fod wedi astudio ar lefelau 1-3 i astudio cwrs gyda Dysgu Gydol Oes.
Mae’r tabl isod yn dangos rhai enghreifftiau cyffredin yn unig o’r cymwysterau ar y gwahanol lefelau. Efallai eich bod wedi cymryd cyrsiau achrededig eraill. Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn cael eu galw’n gyrsiau ‘Lefel 1’ oherwydd eu bod yn gyfwerth a lefel 1 cwrs gradd tair blynedd. Maent ar lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQT)
Lefel NQT |
Enghraifft o gymhwyster ar y lefel hon |
---|---|
8 | Doethuriaeth (PhD) |
7 | Gradd Meistr (MA, MSc) |
6 | Gradd |
5 | Diploma Addysg Uwch (Diploma Cenedlaethol Uwch) |
4 |
Tystysgrif Addysg Uwch – blwyddyn gyntaf cwrs gradd. Modiwlau Lefel 1 gyda Dysgu Gydol Oes. |
3 |
Cyrsiau rhagarweiniol - cyrsiau Lefel 0 gyda Dysgu Gydol Oes, Safon Uwch, NVQ lefel 3 |
2 |
TGAU graddau A-C, NVQ lefel 2, OCN lefel 3 (Open College Network) |
1 | TGAU graddau D-G, NVQ lefel 1, OCN lefel 1 |
Mynediad |
Lefel Mynediad OCN (Rhwydwaith y Coleg Agored) |
Cymwysterau a gynigir mewn Dysgu Gydol Oes:
Tystysgrif Addysg Uwch (TAU)
Diploma Addysg Uwch (DAU)