From Acorn to Oak: Building a Family Tree (part 1)
Gellir astudio 'From Acorn to Oak: Building a Family Tree (part 1)' yn gwrs annibynnol ar wahân, ac mae'n un o gyrsiau craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Dr Matthew Ward
Dull Dysgu: Ar lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XE19210
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Braslun
Ydych chi wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am eich cyndeidiau ond dim syniad ymhle i ddechrau? Os felly, dyma'r cwrs delfrydol oherwydd bydd yn eich rhoi ar ben ffordd i ddechrau llunio a datblygu eich coeden achau eich hun o'r cychwyn. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i'w coeden achau ond a hoffai ddysgu mwy am gofnodion achyddol ac ynglŷn ag ymchwilio yn fwy effeithiol mewn cronfeydd data.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwil i hanes teuluol ym Mhrydain. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i chwilio yn effeithiol trwy nifer o wefannau hel achau, rhai lle telir tanysgrifiad a rhai y gellir eu defnyddio am ddim, yn ogystal â defnyddio a dehongli cofrestr 1939, y cyfrifiad, cofnodion sifil, cofnodion milwrol, ac ewyllysiau a phrofiant. Oherwydd fod hwn yn gwrs dysgu ar-lein byddwch yn gallu astudio gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein o fyfyrwyr eraill sy'n dysgu am hel achau. Cyflwynir y modiwl trwy Blackboard, ein hamgylchedd dysgu ar-lein, a bydd gweminar byw yn cael ei gynnal ar ddiwedd y modiwl. Lle bynnag y bo modd, tynnir sylw at adnoddau eraill sydd ar gael am ddim, ac mae rhan fwyaf y gwefannau a ddefnyddir sy’n gofyn am danysgrifiad ar gael am ddim trwy wasanaethau’r llyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Fe fydd angen talu tanysgrifiad i rai o'r adnoddau ar-lein y cyfeirir atynt yn ystod y cwrs, os byddwch yn eu defnyddio gartref.
Rhaglen
Bydd gweithgareddau a thasgau yn rhan o bob uned er mwyn i’r myfyrwyr allu ymarfer y technegau y maent wedi'u dysgu, a datblygu eu medrau. Caiff myfyrwyr eu hannog i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost yn ystod y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.
Uned 1 - Rhagarweiniad y Cwrs
- Amcanion, pynciau ac asesiadau’r cwrs
- Sut i nodi a chrynhoi'r hyn y gwyddoch eisoes am hanes eich teulu
- Sut i ddefnyddio templed y goeden achau ar-lein
- Byrddau trafod a chyfnodolion ar-lein: sut y byddwn yn eu defnyddio yn ystod y cwrs
Uned 2 - Gwefannau Hel Achau
- Canfod y prif wefannau tanysgrifio ac am ddim ar-lein ar gyfer ymchwil hel achau.
- Dangos dulliau chwilio sylfaenol a chreu coeden ar-lein.
Uned 3 - Cofrestr 1939 a'r Cyfrifiad
- Hanes y 2 gasgliad pwysig hyn o gofnodion
- Sut i ganfod cofrestr a chyfrifiad 1939, sut i chwilio trwyddynt a’u defnyddio’n effeithiol ar gyfer ymchwilio hanes teulu Gweld beth yw heriau a nodweddion hynod y dogfennau hyn.
Uned 4 - Cofrestru Sifil: Cofnodion Geni, Priodi a Marw
- Hanes cofrestru sifil, enghreifftiau o dystysgrifau, tynnu sylw at nodweddion allweddol a dangos sut y gellir eu defnyddio i oresgyn rhwystrau.
- Dangos gwefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a sut i archebu tystysgrifau ar-lein.
Uned 5 - Cofnodion Milwrol: Y ddau Ryfel Byd
- Hanes y rhyfeloedd hyn yn gryno a nifer y rhai yr effeithiwyd arnynt.
- Crynodeb o'r casgliadau sydd wedi goroesi a'r rhai nad ydynt ar gael bellach.
- Ymhle y gellir eu gweld, beth sydd wedi'i ddigideiddio, a sut i chwilio yn effeithiol am eich cyndeidiau.
Uned 6 - Ewyllysiau a Phrofiant ar ôl 1858
- Diffiniadau o ewyllys a phrofiant, pam eu bod yn ddefnyddiol i haneswyr teuluol
- Cyflwyniad i'r Brif Gofrestrfa Profiant ar ôl 1858.
- Sut i ddefnyddio gwefan ewyllysiau a phrofiant llywodraeth y DU i archebu copïau o ewyllysiau.
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Crynhoi a chloriannu eu deunydd archif personol er mwyn dechrau llunio eu coeden achau.
- Cynnal chwiliadau amlran ar-lein mewn nifer o wefannau hel achau er mwyn dod o hyd i gofnodion perthnasol.
- Cloriannu cofnodion achyddol a’u croesgyfeirio i brofi neu wrthbrofi damcaniaeth.
- Dadansoddi a chyfosod yr wybodaeth sydd ganddynt er mwyn creu proffil i un o'u cyndeidiau.
Asesiadau
- Prawf Chwilio Ar-lein - Cynhelir y prawf hwn yn Blackboard: ar ôl Uned 6 byddwch yn cael un ddogfen hel achau. Byddwch wedyn yn defnyddio'r dulliau ymchwil a'r technegau chwilio a ddysgoch i ddod o hyd i gofnodion pellach er mwyn ateb cyfres o gwestiynau ynglŷn â'r unigolyn hwnnw. Bydd yr holl gofnodion i’w canfod ar y prif wefannau hel achau tanysgrifio ac am ddim. (20% o'r marc cyffredinol)
- Proffil un o’ch cyndeidiau - Byddwch yn ysgrifennu proffil i un o'ch hynafiaid gan ddefnyddio rhan fwyaf y cofnodion a drafodwyd yn ystod y modiwl. Dylai gynnwys data hanfodol amdano/amdani (e.e. dyddiadau geni, priodi a marw) yn ogystal â gwybodaeth am broffesiwn yr unigolyn a'r mannau lle bu’n byw. Dylech ddangos tystiolaeth eich bod yn dechrau gosod bywydau eich hynafiaid mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangach (800 o eiriau). (80% o'r marc cyffredinol)
Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen
Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd
- Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
- Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.