Cymwysterau
Mae cwblhau ein cyrsiau rhan-amser yn llwyddiannus yn eich galluogi i ennill credydau y gellir eu defnyddio tuag at gymwysterau addysg uwch.
Y cymhwysterau y gallwch astudio tuag atynt ym maes ecoleg a gwyddoniaeth yw:
Tystysgrif Addysg Barhaus
Mae hwn yn ddyfarniad adrannol y byddwch chi’n ei gyflawni pan fyddwch yn ennill 120 credyd mewn un maes pwnc.
Tystysgrif Addysg Uwch
Mae Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) yn rhaglen rhan amser o gyrsiau byrion, sy’n dod i gyfanswm o 120 o gredydau, ac yn arwain at gymhwyster israddedig Prifysgol.
Mae'r TAU yn cynnwys 120 credyd ac mae ein cyrsiau'n amrywio o 5, 10 ac 20 credyd yr un. Mae gan bob TAU ei Fframwaith ei hun y cytunwyd arno gan y Brifysgol. Mae’r Fframwaith yn amlinellu'r cyrsiau sydd ar gael ac unrhyw gyrsiau penodol y mae'n rhaid eu hastudio er mwyn ennill y TAU (cyrsiau craidd).
Mae gan fyfyrwyr hyd at bum mlynedd i gwblhau'r TAU ac yn ystod y cyfnod hwn gallant astudio cyrsiau ar eu cyflymder eu hunain. Nid yw pob cwrs yn cael ei gynnig bob blwyddyn ond rydym yn sicrhau amrywiaeth eang bob tymor gan gynnwys o leiaf un cwrs craidd.
Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru ar y TAU ac yna byddwch yn talu wrth i chi astudio pob cwrs. Mae cost cyrsiau yn dibynnu ar eu lefel a'u gwerth credyd (mae modiwl 10 credyd yn costio £130) felly uchafswm cost y TAU yw £1560 (yn seiedig ar ffioedd 2024 - 2025). Gallwch gofrestru ar y TAU ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn - mae'n well gan rai myfyrwyr astudio ychydig o gyrsiau cyn ymuno â'r rhaglen TAU. Bydd unrhyw gyrsiau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus yn cyfrif tuag at y cymhwyster terfynol.
Nid oes gan yr un o'n cyrsiau arholiadau – cynhelir asesiad myfyrwyr drwy aseiniadau wedi'u trefnu sy'n berthnasol i feysydd pwnc y cwrs. Gall aseiniadau gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, profion ar-lein, traethodau ymchwiliedig, cyfnodolyn gwaith ac ati.
Dysgwch fwy am y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ecoleg Faes
Ymgeisiwch ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ecoleg Faes
Diploma Addysg Uwch
Mae'r Diploma Addysg Uwch mewn Ecoleg Faes a Chadwraeth yn rhoi dilyniant ar ôl ennill y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ecoleg Faes.
Mae'r Diploma mewn Addysg Uwch yn rhaglen ran-amser o fodiwlau byr, sy'n gyfanswm o 120 credyd, sy'n arwain at gymhwyster israddedig y Brifysgol. Mae Diploma yn dilyn ymlaen o gwblhau Tystysgrif Addysg Uwch (120 credyd), gyda 120 credyd pellach yn cael eu cymryd i gyrraedd cyfanswm o 240.
Mae'r Diploma yn cynnwys 120 credyd ac mae ein cyrsiau'n amrywio o 10 ac 20 credyd yr un. Mae gan y Diploma ei Strwythur ei hun y cytunwyd arno gan y Brifysgol ac sy'n amlinellu'r cyrsiau sydd ar gael ac unrhyw gyrsiau penodol y mae'n rhaid eu hastudio er mwyn ennill y Diploma.
Mae gan fyfyrwyr hyd at bum mlynedd i gwblhau'r Diploma ac yn ystod y cyfnod hwn gallant astudio cyrsiau ar eu cyflymder eu hunain. Nid yw pob cwrs yn cael ei gynnig bob blwyddyn ond rydym yn sicrhau amrywiaeth eang bob tymor gan gynnwys o leiaf un cwrs craidd.
Mae'r cyrsiau a gynigir trwy'r DHE wedi'u cynllunio i ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau maes a chadwraeth. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau a enillir yn hanfodol ar gyfer unrhyw swydd o fewn y maes amgylcheddol neu ecolegol - gan ddarparu profiad ymarferol a datblygu sgiliau adnabod sy'n aml yn cael eu hesgeuluso mewn cyrsiau addysg uwch eraill.
Dim ond os ydych eisoes wedi cwblhau eich Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ecoleg Faes y gallwch gofrestru ar gyfer y Diploma Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth.
Dysgwch fwy am y Diploma Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth
Ymgeisiwch ar gyfer Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch.