Gwibdaith Drwy Lenyddiaeth Gymraeg
Gwlad beirdd a chantorion’ medd yr anthem genedlaethol am Gymru, a thros gyfnod o ddeg wythnos, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i rai o feirdd a llenorion Cymru.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Yr Athro Mererid Hopwood
Dull Dysgu: Gwyneb-i-wyneb
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD11010
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Gellir archebu lle ar y cwrs yma.
Amlinell
Nod y cwrs ymarferol hwn yw cyflwyno egwyddorion ffotograffiaeth ddigidol yn ystod cyfnod y gwyll a’r nos, gan roi gwybodaeth a dealltwriaeth i'r dysgwr o ddefnydd sylfaenol y camera er mwyn sicrhau lluniau o’r ansawdd uchaf.
Tra bydd agweddau sylfaenol ffotograffiaeth ddigidol yn cael eu cwmpasu (trin a chyflunio’r camera digidol, dewis lensys, datguddiad, cyfansoddiad a beirniadaeth delwedd), bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar dynnu lluniau penodol yn ystod y nos a chyfnod y gwyll.
Bydd y dysgwr yn cael cyfle i arsylwi a thynnu lluniau yn ardal Ponterwyd, Nant yr Arian a Nant y Moch, Ceredigion / Tregaron, Ceredigion / Cwm Elan
Yn agored i bawb o ddechreuwyr i arbenigwyr, mae'r cwrs hwn yn archwilio tynnu lluniau awyr y nos a’r gwyll tra'n ymgorffori natur.
Rhaglen y Cwrs
Dwy sesiwn o dynnu lluniau o awyr y gwyll a’r nos mewn lleoliadau detholedig gyda chyfarwyddid gan arbenigwr yn y maes.
Yn ystod y sesiynau bydd yr elfennau isod yn cael eu dysgu:
- Sut i ddal camera a defnyddio’r treipod a’r teclyn rheoli di-gyffwrdd
- Sgiliau maes sylfaenol
- Ffurfweddu'r DSLR / Camera di-ddrych
- Dewis lens
- Amlygiad
- Cyfansoddiad
- Goleuadau naturiol
- Rheolaeth greadigol
- Golygu ac addasu lluniau
Ceir adolygiad o’r lluniau yn ystod y cwrs er mwyn dysgu sut i hunan-feirniadu gwaith a galluogi gwelliant parhaus.
Mae ein tiwtor, Dafydd Wyn Morgan, yn un o ffotograffwyr mwyaf brwdfrydig Cymru, sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth a fideograffiaeth nos gan gyflwyno'r wybren dywyll mewn cysylltiad â thirweddau byd natur. Mae ei luniau wedi cael eu cyhoeddi yn y National Geographic, Sky at Night
Magazine Sky News a llawer o bapurau newydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cymerwch bip ar ei wefan: Home | Serydda / Stargazing / Wales
Manylion y Cwrs
Nos Sadwrn, 26ain a nos Sul, 27ain Ebrill 2025
Rhwng 8 yr hwyr a 2 y bore
Cwrdd yng Ngwesty’r George Borrow, Ponterwyd, Ceredigion, SY23 3AD Gellir archebu swper o flaen llaw os dymunir Gwefan: George Borrow Hotel, Aberystwyth | HomePage
Pwysig: Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu’r offer angenrheidiol (gweler y rhestr isod).
Canlyniadau Dysgu
- Adnabod, dewis a defnyddio sgiliau a dulliau ffotograffiaeth sylfaenol a phriodol wrth dynnu lluniau yn ystod y nos a chyfnod y gwyll
- Dangos sgiliau sylfaenol wrth ddefnyddio camera digidol ac offer ffotograffiaeth gan gynnwys pecynau golygu
- Dysgu technegau newydd wrth dynnu lluniau yn yr awyr agored yn ystod y nos a chyfnod y gwyll
- Hunan-feirniadu delweddau er mwyn galluogi gwelliant parhaus
Asesiadau
- Arddangosiad ymarferol o gymhwysedd yn ystod y gwaith maes
- Portffolio o waith a delweddau a dynnwyd yn ystod y cwrs
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Beth sydd ei angen arnaf?
Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu’r offer canlynol:
- Camera DSLR / Di-ddrych
- Treipod
- Remote control
- Tortsh pen
- Cerdyn SD
- Gliniadur