Cyflogadwyedd
Cyflogadwyedd
Mae Dysgu Gydol Oes yn darparu cyfleoedd a chefnogaeth i bob myfyriwr ddatblygu rhinweddau sy'n eu galluogi i lwyddo mewn maes cyflogaeth cenedlaethol a byd-eang.
Mae'n gyffredin i unigolion newid gyrfaoedd a gweithio i nifer o gyflogwyr ar draws gwahanol ddiwydiannau drwy gydol eu hoes. Gall newid gyrfa arwain at batrymau gwaith hyblyg a chyfleoedd gwell gyda chyflogau uwch. Fodd bynnag, er mwyn llwyddo mewn llawer o ddiwydiannau, bydd angen set o sgiliau trosglwyddadwy neu sgiliau cyflogadwyedd arnoch chi. Nid yw'r sgiliau hyn yn canolbwyntio ar unrhyw lwybr gyrfa neu ddiwydiant yn benodol. Yn hytrach, maent yn ddefnyddiol mewn unrhyw swydd. Mae cyflogwyr hefyd yn chwilio am weithwyr sydd â'r sgiliau hyn i weithio mewn swyddi ar lefel uchel.
Beth yw sgiliau cyflogadwyedd?
Sgiliau cyflogadwyedd, neu sgiliau trosglwyddadwy, yw'r sgiliau a'r nodweddion craidd sydd eu hangen i lwyddo mewn unrhyw swydd. Dyma’r ‘sgiliau meddal’ sy’n eich gwneud yn ddymunol i sefydliad waeth beth fo'ch hyfforddiant neu'ch profiad proffesiynol blaenorol. Mae sgiliau cyflogadwyedd yn gwella eich cyfathrebu llafar, eich parodrwydd am waith a’ch gallu i weithio yn rhan o dîm.
Pam fod sgiliau cyflogadwyedd yn bwysig?
Mae sgiliau cyflogadwyedd yn bwysig oherwydd, er nad ydynt wedi'u rhestru mewn disgrifiadau swydd yn aml, mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn chwilio amdanynt wrth gyfweld ag ymgeiswyr. Gall meddu ar sgiliau cyflogadwyedd eich helpu i sefyll allan ymhlith ymgeiswyr eraill sy’n gwneud cais am yr un swydd. Mae’n bwysig rhestru’r sgiliau cyflogadwyedd sydd fwyaf perthnasol i'r rôl er mwyn gwella eich siawns o gael eich cyflogi.
Dyma rai o'r sgiliau cyflogadwyedd pwysicaf:
Cyfathrebu
Mae cyfathrebu, trwy unrhyw gyfrwng, yn rhan hanfodol o waith. Dylech allu trosglwyddo negeseuon yn glir i’ch cyflogwr, a deall negeseuon oddi wrtho yn glir hefyd. Bydd hyn yn eich helpu i gyflawni tasgau yn gyflymach a gwella cynhyrchiant a chydweithrediad â chydweithwyr. Bydd sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd yn helpu i wella eich effeithlonrwydd yn y gweithle.
Bydd astudio cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn gwella eich sgiliau cyfathrebu o ran ysgrifennu, siarad, gwrando a chyflwyno.
Cymhelliant
Mae bod â chymhelliant yn golygu bod â'r gallu i weithio'n annibynnol a gwneud cynnydd yn barhaus tuag at eich nodau. Mae unigolion â chymhelliant yn rhagweithiol, ac anaml iawn y maent yn caniatáu i heriau eu hatal rhag gwneud cynnydd.
Dylai eich cymhelliant danio eich awydd i lwyddo a'ch ysbrydoli i wella eich galluoedd yn barhaus trwy gyfleoedd dysgu a datblygiad proffesiynol. Bydd eich cwmni'n elwa o'ch blaengarwch ac yn ennill mantais gystadleuol yn y diwydiant trwy eich arloesedd.
Gwaith tîm
Mae sgiliau gwaith tîm yn eich galluogi i weithio ochr yn ochr â'ch cydweithwyr i gyflawni amcan cyffredin. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol gan eu bod yn galluogi cwmni i gyflawni ei nodau penodol yn well. Bydd gweithio a dysgu gydag eraill ar ein cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn eich helpu i weithio yn rhan o dîm ac yn eich dysgu sut i weithio ar eich liwt eich hun.
Dibynadwyedd
Mae dibynadwyedd yn golygu eich bod yn ddibynadwy a gall eich cyflogwr ddibynnu ar eich gair a'ch galluoedd. Caiff ymddiriedaeth ei feithrin trwy gwblhau tasgau ar amser yn gyson a sicrhau canlyniadau boddhaol. Caiff ein cyrsiau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig sy'n eich galluogi i arddangos yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu yn ogystal â'ch dibynadwyedd a'ch gallu i weithio yn unol â therfyn amser.
Y gallu i ddysgu yn y swydd a dilyn cyfarwyddiadau
Mae sgiliau dysgu cryf yn hanfodol i ddeall cysyniadau a dulliau newydd o gyflawni tasg yn gyflym, gwella eich sgiliau yn barhaus ac addasu yn effeithiol i newid. Bydd dysgu gyda ni yn eich dysgu chi sut i ymgyfarwyddo â dulliau a methodolegau newydd pob cwrs a'i gynnwys.
Sgiliau dadansoddol
Sgiliau dadansoddol yw'r gallu i rannu gwybodaeth yn ddarnau llai er mwyn dod i gasgliadau. Mae hyn yn aml yn cynnwys defnyddio sgiliau rhesymu rhesymegol, creadigrwydd, ymchwil, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol. Drwy astudio ein cyrsiau Dysgu Gydol Oes, byddwch yn dysgu ac yn defnyddio'r sgiliau hyn yn ddiarwybod fel rhan o'ch dysgu.
Gall gweithwyr sydd â'r sgiliau hyn helpu sefydliad i ddatrys problemau, gwella effeithlonrwydd a chynyddu cynhyrchiant.
Sut i ddefnyddio eich sgiliau cyflogadwyedd
Y cam cyntaf i allu marchnata eich sgiliau cyflogadwyedd yn iawn i gyflogwyr yw eu nodi. Dylech hefyd nodi'r sgiliau cyflogadwyedd y mae cyflogwyr yn eich diwydiant yn chwilio amdanynt. Wrth ysgrifennu eich CV, dylech gynnwys enghreifftiau o sefyllfaoedd lle rydych wedi defnyddio eich sgiliau cyflogadwyedd. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol sôn am sut y gall y sgiliau hyn eich helpu i gyflawni eich rôl newydd yn effeithiol.