Writing Detective and Thriller Fiction

 

Gellir astudio 'Writing Detective and Thriller Fiction' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Lara Clough 

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC 

Cod y Modiwl: XM19310

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Mae ffuglen dditectif a ffuglen gyffro yn hynod boblogaidd.  Mae’r genres hyn yn gofyn i awdur lunio plotiau cymhleth, gwneud ymchwil fanwl, a bod â’r gallu i greu cymeriadau 'dwfn' a chymhleth.  Bydd y modiwl hwn yn tynnu sylw at gyd-destunau hanesyddol y ddau genre o'u cychwyn cyntaf yng ngwaith (er enghraifft) Edgar Allan Poe a Syr Arthur Conan Doyle.  Byddwn hefyd yn edrych ar ystod eang o is-genres - o droseddau-clyd i weithiau llenyddol, i droseddau Nordig cyfoes, cignoeth.  Bydd myfyrwyr yn dadansoddi ac yn cymharu ystod eang o waith ffuglen sydd wedi ei gyhoeddi.  Bydd pob myfyriwr hefyd yn cael arweiniad wrth ddefnyddio’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i ysgrifennu ffuglen dditectif a ffuglen gyffro effeithiol gan ddod i adnabod eu harddull a’u safbwynt penodol eu hunain. 

Rhaglen

Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau.  Anogir myfyrwyr i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard.  Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad.  Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.   

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:  

  1. Pwyso a mesur hanes a datblygiad genre’r ffuglen dditectif a’r ffuglen gyffro.  
  2. Dadansoddi a defnyddio’r grefft o ysgrifennu ffuglen dditectif neu ffuglen gyffro, gan ystyried lle seicoleg a chymhelliant, a phwysigrwydd plotio.  
  3. Dangos y gallu i gloriannu eich gwaith eich hun yn feirniadol a gwaith awduron eraill.   

Asesiadau

  1. Crynodeb beirniadol sy'n cofnodi ac yn ystyried y broses o greu’r crynodeb, a sut y disgrifir y gwaith hwn o fewn genres naill ai ffuglen gyffrous neu ffuglen dditectif 600 o eiriau (40%)  
  2. Darn o nofel arfaethedig neu stori fer 1500 o eiriau (60%) 

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs. 

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyswllt â'r Rhyngrwyd
  • Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
  • Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.