Writing as a Creative Process

 

Gellir astudio 'Writing as a Creative Process' fel cwrs annibynnol ac mae’n un o gyrsiau craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg 

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Henrietta Tremlett

Dull Dysgu: Wyneb i wyneb 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC

Cod y Modiwl: XE10410

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â’r broses greadigol a bydd yn cyflwyno myfyrwyr i dechnegau ac ymarferion i helpu ysgogi creadigrwydd.  Bydd y cwrs hefyd yn edrych ar sut mae awduron, yn y gorffennol a'r presennol, wedi edrych ar y broses greadigol ac wedi ceisio ei deall a'i diffinio.  
  
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr a allai fod yn ceisio ysgrifennu'n greadigol am y tro cyntaf ac ar gyfer awduron mwy profiadol sy'n awyddus i ddatblygu technegau newydd a gwella eu sgiliau ysgrifennu. 

Rhaglen

Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau. Anogir myfyrwyr i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad.  Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.

  • Uned 1 - Rhagarweiniad  
  • Uned 2 – Lle Creadigrwydd 
  • Uned 3 – O ble mae awdur yn cael ei syniadau? 
  • Uned 4 – Straeon tylwyth Teg 
  • Uned 5 – Lle a Chymeriadau
  • Uned 6 - Saernïaeth a’r Plot
  • Uned 7 – Y Darllenydd
  • Uned 8 – Drafftio a Golygu   

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr fod yn gallu: 

  1. Dangos dealltwriaeth o'r gwahanol ddulliau o ymdrin â'r broses greadigol a’u sail athronyddol.     
  2. Rhoi gwahanol ddulliau creadigol ar waith ac arbrofi â nhw i greu gweithiau ysgrifenedig amrywiol.  
  3. Dangos eu bod yn gallu golygu eu gwaith eu hunain, gan gynnwys saernïo, ynghyd â dealltwriaeth gysylltiedig o'r broses olygu fel rhywbeth hanfodol i greu testunau creadigol.   
  4. Myfyrio'n feirniadol ar eu gwaith creadigol a'u proses ysgrifennu eu hunain, a gwaith eraill.   

Asesiadau

  1. Darn ffuglen greadigol ysgrifenedig (1200 o eiriau; 60% o'r marc cyffredinol)  
  2. Sylwebaeth fyfyriol feirniadol (800 o eiriau; 40% o'r marc cyffredinol)   

Awgrymiadau Darllen

Cynigir awgrymiadau ar gyfer deunydd darllen drwy gydol y cwrs. 

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyswllt â'r Rhyngrwyd
  • Gliniadur neu gyfrifiadur gyda gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
  • Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.