Scriptwriting for Beginners: Writing for Radio, Theatre, Film and TV

 

Gellir astudio 'Scriptwriting for Beginners: Writing for Radio, Theatre, Film and TV' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Thomas Alcott

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC 

Cod y Modiwl: XE11710

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Oes gennych chi syniad am sgript ar gyfer ffilm, teledu, radio neu theatr ond eich bod yn ansicr sut i ddechrau?  Ydych chi wedi ysgrifennu sgript ond angen ei hail-lunio neu ei hailwampio?  Hoffech chi ysgrifennu gwell deialog, plotiau mwy cyffrous, neu ddod â'ch cymeriadau'n fyw? 

Cwrs i ddechreuwyr yw hwn sy'n rhoi canllaw ymarferol a damcaniaethol i fyfyrwyr i ysgrifennu sgriptiau.  Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu cymeriadau, stori a phlot, yn ogystal â sut i saernïo eich sgript ac ysgrifennu deialog. 

Yn y cwrs hwn byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu dechrau eich sgript, gan gwmpasu hanfodion sgriptio i'ch helpu i ysgrifennu sgript lawn. 

Yna byddwch yn gwneud rhagor o weithgareddau ar-lein ac yn cyflwyno eich asesiad terfynol.  Bydd eich tiwtor yn rhoi cefnogaeth ar-lein drwy gydol y cwrs.  Bydd y cwrs yn darparu lle diogel a chefnogol i rannu’ch gwaith.

Rhaglen

Darperir y modiwl trwy Blackboard, a’r wyth uned yn cael eu darparu trwy gyflwyniadau Panopto.  Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau.
Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys un diwrnod dysgu wyneb yn wyneb, dwy ran o dair o'r ffordd drwy'r cwrs.  Bydd y cwrs hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr gael adborth manwl ar eu drafft cyn y cyflwyniad terfynol. 

  • Uned 1 - Datblygu syniad gan graffu ar gysyniadau, themâu a hanfodion eraill i benderfynu a oes potensial am sgript yn y syniad, gan bwyso a mesur fformatau posibl a gofyn a yw’r syniad yn addas ar gyfer teledu, ffilm, theatr neu radio. Mae’r myfyrwyr yn cwblhau eu sgript ar-lein.
  • Uned 2 - 3 Datblygu stori drwy ddatblygu cymeriad â gweithgareddau ymarferol gan gynnwys trafod prif gymeriadau a gwrthgymeriadau, nodau ac amcanion gweithredol a chwsg, cymeriadaeth naturiolaidd ac annaturiolaidd, a phwysigrwydd ymchwil ar gyfer cymeriadaeth. 
  • Uned 4 - Creu deialog trwy gymeriadaeth a gwahanol fathau o ddeialog ar gyfer arddulliau, genre a fformat.  Mynd i ddiwrnod dysgu wyneb yn wyneb.
  • Uned 5 - 7 Trosolwg o strwythur mewn theatr, ffilm, teledu a radio, ac o dechnegau amrywiol i ddatblygu strwythur er mwyn rhoi fframwaith sylfaenol i stori. 
  • Uned 8 - Ystyriaeth o hanfodion dechreuad sgript a fydd yn cynnwys enghreifftiau o sgriptiau er mwyn trin a thrafod dechrau sgript.

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol: 

  1. Dangos dealltwriaeth o’r gofynion creadigol gwahanol a geir mewn amrywiol gyfryngau sgript, gan gynnwys radio, theatr, teledu a ffilm.
  2. Cydymffurfio â gofynion amrywiol a defnyddio technegau a themâu i lunio dechrau’r sgript, sy'n rhan o strwythur y cyfanwaith.
  3. Dangos dealltwriaeth o rolau cymeriadau a datblygiad cymeriadau.
  4. Cloriannu drafft eich sgript a nodi rhannau i’w hail-ddrafftio a’u golygu.

Asesiadau

  1. Braslun y sgript 250 gair (20%)
  2. Cyflwyno adran gyntaf y sgript; 2500 o eiriau (80%)

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs. 

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyswllt â'r Rhyngrwyd
  • Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
  • Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.