Novel Writing 3: The Rewrite
Gellir astudio ‘Novel Writing 3: The Rewrite’ fel cwrs annibynnol ac fel cwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Dr Helen Pendry
Dull Dysgu: Ar lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XE14910
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Braslun
Ysgrifennu nofel yw uchelgais nifer ohonom, a gallwn gario syniad am flynyddoedd heb roi’r syniad hwnnw ar bapur. Mae rhai ohonom yn dechrau arni, ond gall fod yn anodd cynnal momentwm, ac o ganlyniad, mae nifer o nofelau gwych yn cael eu gadael ar eu hanner. ‘Novel Writing 3: The Rewrite’ yw’r trydydd o dri chwrs mewn cyfres ysgrifennu nofelau. Nid yw'n orfodol i fyfyrwyr fod wedi gwneud ‘Novel Writing 1’ a ‘Novel Writing 2’, cyn belled â bod gan y myfyriwr ddrafft o nofel y maent am weithio arni.
Yn rhan o’r cyrsiau ‘Novel Writing 1’ a ‘Novel Writing 2’, mae myfyrwyr yn datblygu eu syniadau, yn gweithio ar adeiladu byd y nofel honno ac yn ysgrifennu drafft cyntaf. Yn y trydydd cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i fynd ati i ailwampio eu drafft.
Yn gyntaf, bydd y cwrs ‘Novel Writing 3’ yn eich annog i ddarllen trwy eich drafft a nodi beth sy'n gweithio'n dda a pha welliannau y gallai fod angen eu gwneud. Yna byddwch yn cwblhau 'diagnosis y darllenydd' ac yna 'cynllun y golygydd'. Trwy ymarferion ategol ac adborth gan diwtor, byddwch yn dadansoddi'r golygfeydd yn eich nofel ac yn dechrau ailysgrifennu rhai adrannau. Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ystod o dechnegau a strategaethau i'ch helpu i ailwampio eich nofel, rhoi sglein arni, a’i chyflwyno. Byddwch hefyd yn gweithio ar ysgrifennu synopsis a chyflwyniad ar gyfer darpar asiantau a chyhoeddwyr. Mae pob uned, felly, yn cynnig cyngor ac anogaeth a'r cyfle i drafod problemau gyda'r tiwtor a'r grŵp.
Rhaglen
Cyflwynir y cynnwys ar-lein drwy ddarlithoedd PowerPoint fideo a chynnwys fideo allanol. Bydd gweithgareddau a byrddau trafod yn cael eu hymgorffori ym mhob un o’r unedau er mwyn i’r tiwtor allu cynnig cymorth ac adborth. Bydd nifer o'r gweithgareddau yn helpu'r myfyrwyr i baratoi ar gyfer yr aseiniadau.
- Uned 1 - Y broses ddarllen. Eich drafft - lle ydych chi wedi’i gyrraedd? Rhai canllawiau cyffredinol ar y broses ailysgrifennu. Rhai canllawiau ar y broses ddarllen.
- Uned 2 - Diagnosis a chynllun. Diagnosis y darllenydd. Cynllun y golygydd.
- Uned 3 - Golygfa wrth olygfa
- Uned 4 - Ailysgrifennu golygfeydd
- Uned 5 - Mireinio – sut i roi sglein ar eich nofel a’i chyflwyno
- Uned 6 - Ysgrifennu synopsis a chyflwyniad (ar gyfer asiantau a chyhoeddwyr)
- Uned 7 - Mwy o ailysgrifennu a mireinio
- Uned 8 - Casgliadau a symud ymlaen
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Adnabod a defnyddio ystod eang o strategaethau a thechnegau creadigol i olygu a gwella drafft cyntaf
- Creu synopsis o'u nofel.
- Golygu a gwella 'golygfa', pennod neu adran o'u nofel.
- Dechrau ystyried eu gwaith o safbwynt darllenwyr, asiantau a chyhoeddwyr.
Asesiadau
- Pennod neu olygfa o'r nofel wedi’i golygu a’i mireinio: 1500 o eiriau; 70%.
- Synopsis o'r nofel: 500 o eiriau; 30%.
Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen
Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd
- Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
- Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.