Novel Writing 2: The First Draft
Gellir astudio ‘Novel Writing 2: The First Draft’ fel cwrs annibynnol ac fel cwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Dr Helen Pendry
Dull Dysgu: Ar lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XE12210
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Braslun
Ysgrifennu nofel yw uchelgais nifer ohonom, a gallwn gario syniad am flynyddoedd heb roi’r syniad hwnnw ar bapur. Mae rhai ohonom yn dechrau arni, ond gall fod yn anodd cynnal momentwm, ac o ganlyniad, mae nifer o nofelau gwych yn cael eu gadael ar eu hanner. ‘Novel Writing 2: The First Draft’ yw’r ail o dri chwrs mewn cyfres ysgrifennu nofelau. Nid oes rhaid i fyfyrwyr fod wedi gwneud ‘Novel Writing 1’, cyn belled â bod ganddynt gynllun ar gyfer nofel ac yn hyderus eu bod yn barod i ddechrau ysgrifennu drafft cyntaf.
Yn ystod ‘Novel Writing 1’, bydd myfyrwyr yn datblygu eu syniadau ac yn gweithio ar adeiladu byd y nofel honno. Ar ‘Novel Writing 2’, bydd myfyrwyr yn anelu at ysgrifennu drafft cyntaf o’u nofel (y gellir gweithio arno wedyn ar ‘Novel Writing 3: The Rewrite’
Yn gyntaf, bydd ‘Novel Writing 2’ yn eich annog i osod eich nodau ysgrifennu a dechrau cadw cofnod o’ch gwaith. Trwy ymarferion ysgrifennu ac adborth gan diwtor, byddwch yn datblygu arc stori a phwyntiau plot, wrth fyfyrio ar eich proses ysgrifennu. Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ystod o dechnegau ysgrifennu yn ogystal â strategaethau ar gyfer cynllunio a strwythuro eich nofel. Mae’n bwysig i chi roi geiriau ar y dudalen, ac felly bydd y cwrs yn canolbwyntio ar eich annog i ymrwymo i ysgrifennu nifer penodol o eiriau yr wythnos. Mae pob uned felly’n cynnig cyngor ac anogaeth a’r cyfle i drafod problemau gyda’r tiwtor a’r grŵp.
Rhaglen
Cyflwynir y cynnwys ar-lein drwy ddarlithoedd PowerPoint fideo a chynnwys fideo allanol. Bydd gweithgareddau a byrddau trafod yn cael eu hymgorffori ym mhob un o’r unedau er mwyn i’r tiwtor allu cynnig cymorth ac adborth. Bydd nifer o'r gweithgareddau yn helpu'r myfyrwyr i baratoi ar gyfer yr aseiniadau.
- Uned 1. Dechrau - y sefyllfa a’r digwyddiad ysgogol
- Uned 2. Arc stori – y daith – y trobwyntiau.
- Uned 3. Plot – y stori gefn – y trobwynt cyntaf / pwynt plot 1.
- Uned 4. Strwythur a Golygfeydd – Mae popeth yn mynd yn dda (neu ydy e?)
- Uned 5. Ymrwymiad, temtasiwn a gwrthwynebwyr – y man canol
- Uned 6. Dioddefaint / awydd / ildio
- Uned 7. Eisiau / Angen / Ail-fframio Awydd
- Uned 8. Y Diwedd / Dychwelyd Adref
- Uned 9. Datrysiadau a mynd yn ôl i'r dechrau
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r rhai sydd ar y cwrs allu wneud y canlynol:
- Gosod nodau ysgrifennu realistig a chadw cofnod o'u gwaith yn rheolaidd.
- Adnabod a defnyddio ystod eang o strategaethau a thechnegau creadigol.
- Myfyrio'n feirniadol ar eu gwaith creadigol a'u proses ysgrifennu eu hunain.
- Dangos dealltwriaeth o strwythur, plotio, datblygu cymeriadau, golygfeydd a lleoliadau.
Asesiadau
- Cynllun drafft cyntaf (300 gair) 20%
- Sylwebaeth fyfyriol (1500) 80%
Awgrymiadau Darllen
Cynigir awgrymiadau ar gyfer deunydd darllen drwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd