Novel Writing 1: Beginning a Novel

 

Gellir astudio ‘Novel Writing 1: Beginning a Novel’ fel cwrs annibynnol ac fel cwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Helen Pendry

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC  

Cod y Modiwl: XE12110

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun 

Ysgrifennu nofel yw uchelgais nifer ohonom, a gallwn gario syniad am flynyddoedd heb roi’r syniad hwnnw ar bapur. Mae rhai ohonom yn dechrau arni, ond gall fod yn anodd cynnal momentwm, ac o ganlyniad, mae nifer o nofelau gwych yn cael eu gadael ar eu hanner. Gellir astudio ‘Novel Writing 1: Beginning a Novel’ fel cwrs annibynnol, ond hwn hefyd yw'r cyntaf o dri chwrs mewn cyfres ysgrifennu nofel. Bydd y cwrs hwn, yn gyntaf, yn eich annog i feddwl am nifer o syniadau newydd posibl ac yna'n eich helpu i leihau hynny i un syniad. Trwy ymarferion ysgrifennu ac adborth gan diwtor, byddwch yn datblygu amlinelliad sylfaenol ar gyfer eich nofel, wrth fyfyrio ar eich proses ysgrifennu. Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ystod o dechnegau ysgrifennu yn ogystal â strategaethau ar gyfer plotio a strwythuro'ch nofel. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ysgrifennu synopsis.
Bydd yr ail gwrs yn canolbwyntio ar gwblhau drafft cyntaf, a bydd y trydydd yn canolbwyntio ar y broses ailwampio.


Rhaglen

Cyflwynir y cynnwys ar-lein drwy ddarlithoedd PowerPoint fideo a chynnwys fideo allanol.  Bydd gweithgareddau a byrddau trafod yn cael eu hymgorffori ym mhob un o’r unedau er mwyn i’r tiwtor allu cynnig cymorth ac adborth. Bydd nifer o'r gweithgareddau yn helpu'r myfyrwyr i baratoi ar gyfer yr aseiniadau. 

  • Uned 1. Cyflwyniad
  • Uned 2. Ydych chi’n un i gynllunio neu beidio?
  • Uned 3. Digwyddodd rhywbeth i rywun.
  • Uned 4. Archwilio cymeriadau eraill
  • Uned 5. Plotio (neu beidio â phlotio)
  • Uned 6. Adeiladu golygfa: lle, lleoliad, awyrgylch.
  • Uned 7. Safbwynt ac amser.
  • Uned 8. Ysgrifennu eich synopsis.
  • Uned 9. Ysgrifennu drafft cyntaf – rhai dulliau. 

    Canlyniadau Dysgu

    Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:  

    1. Adnabod a defnyddio ystod eang o strategaethau a thechnegau creadigol.
    2. Creu synopsis o’r nofel arfaethedig
    3. Ysgrifennu 'golygfa', pennod neu adran o'r nofel arfaethedig.
    4. Dechrau trafod eu gwaith a'u syniadau eu hunain a gwaith awduron eraill mewn modd adeiladol feirniadol a myfyriol. 

    Asesiadau

    1. Synopsis (500 gair) 30%
    2. Drafft o bennod neu olygfa sampl (1500) 70%

    Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

    Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs. 

    Gofynion Mynediad

    Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

    Beth sydd ei angen arnaf?

    Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

    • Cyswllt â'r Rhyngrwyd
    • Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
    • Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.