Fantasy Fiction

 

Gellir astudio 'Fantasy Fiction' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Saesneg 

Hyd: 10 Wythnos 

Nifer y Credydau: 10 

Tiwtor:Lara Clough  

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC 

Cod y Modiwl: XE11510 

Ffi:£130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd  

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Mae ffuglen ffantasi yn ein galluogi i ymgolli mewn bydoedd lle mae elfennau hudol a goruwchnaturiol yn bodoli a chymeriadau a themâu cryf yn deillio o sawl traddodiad, o fythau hynafol Groeg, themâu sifalri yr oesoedd canol a ffuglen Gothig i straeon tylwyth teg a straeon ysbryd o bob cwr o'r byd. 
 
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg ar destunau hanesyddol dylanwadol megis Yr Odyseia, Beowulf a'r Mabinogion, awduron cynnar nodedig megis George MacDonald, Hans Christian Anderson, E.Nesbit, Frank.L. Baum ac ymlaen at awduron yr 20fed ganrif megis J.R.R. Tolkien, C.S.Lewis, Ursula.K.Le Guin, J.K.Rowling, Philip Pullman a Neil Gaiman. 
  
Mae llawer o'r awduron hyn yn ysgrifennu llyfrau sydd wedi'u hanelu at y farchnad Oedolion Ifanc (oedran 12+) ond mae’r llyfrau’n apelio at bawb ac fe’u defnyddir i greu ffilmiau a rhaglenni teledu hynod lwyddiannus. 
  
Bydd y cwrs yn ymdrin â strategaethau a themâu amrywiol: creu bydoedd cydlynol y gellir ymgolli ynddynt, straeon sy’n cynnwys 'pyrth' ac ‘ymyrraeth' rhwng y byd go iawn a’r byd ffantasïol, hud eglur (hard magic), hud niwlog (soft magic), straeon dod i oed a straeon sy'n cyffwrdd ag arswyd. 
  
Bydd y cwrs yn trin a thrafod y broses o lunio cymeriadau diddorol ac oesol, yn edrych ar sut i greu’r teimlad o fod ar bigau’r drain a chreu tensiwn, a sut i gynllunio’n ofalus. 

Rhaglen

Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau.  Anogir myfyrwyr i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard.  Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad.  Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.      

  • Uned 1 - Trosolwg hanesyddol 
  • Uned 2 - Straeon Tylwyth teg a Thylwyth teg  
  • Uned 3 - Straeon ysbryd, fampirod, arswyd a Ffantasi Dywyll  
  • Uned 4 - Pyrth ac 'Ymyrraeth' - sut mae awduron yn ein galluogi i fynd i mewn i'r byd ffantasi  
  • Uned 5 - Uchel-ffantasi a ffantasi epig, fanwl gyfoethog  
  • Uned 6 - Datblygu eich cymeriadau 
  • Uned 7 - GWEMINAR DERFYNOL AR TEAMS:  Dod â’r llinynnau at ei gilydd - datblygu eich syniadau.  

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:  

  1. Dod i adnabod a chloriannu hanes ac esblygiad y genre ffuglen ffantasi a’i themâu.  
  2. Dadansoddi a chloriannu ystod o destunau genres perthnasol gan adnabod y gwahanol swyddogaethau, y themâu a’r technegau. 
  3. Defnyddio gwahanol is-genres, eu nodweddion a’u technegau ysgrifennu, ac arbrofi â nhw.  
  4. Myfyrio'n feirniadol ar eu gwaith creadigol eu hunain ac ymateb yn sensitif ac adeiladol i waith pobl eraill.   

Asesiadau

  1. Stori fer ffantasi 1500 o eiriau neu ddetholiad o waith hirach (70%)  
  2. Portffolio beirniadol a myfyriol 500 o eiriau (30%)

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs. 

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyswllt â'r Rhyngrwyd
  • Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
  • Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.