Exploring Creative Writing Techniques
Gellir astudio 'Autobiographical Writing' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Henni Tremlett
Dull Dysgu: Ar lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XE14610
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Braslun
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i dechnegau, sgiliau a chrefft ysgrifennu creadigol. Fe'ch anogir i arbrofi â gwahanol ffurfiau llenyddol ysgrifenedig gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ffuglen, ffurfiau ffeithiol, barddoniaeth a drama.
Mae'n addas ar gyfer dechreuwyr a allai fod yn ceisio ysgrifennu'n greadigol am y tro cyntaf ac ar gyfer awduron mwy profiadol sy'n awyddus i ddatblygu technegau newydd a gwella eu sgiliau ysgrifennu ymhellach.
Gellir astudio Exploring Creative Writing Techniques fel cwrs annibynnol ond mae hefyd yn un o dri modiwl craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Rhaglen
Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau. Anogir myfyrwyr i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau.
- Uned 1 – Cyflwyniad
- Uned 2 – Gwahaniaethau Testunol
- Uned 3 – Ysgrifennu gan ddefnyddio’r holl synhwyrau
- Uned 4 – Ysgrifennu am Bobl
- Uned 5 – Ysgrifennu gydag Ymdeimlad o Le
- Uned 6 – Ystyriaeth feirniadol a rhoi sylwadau ar waith pobl eraill
- Uned 7 – Saernïaeth
- Uned 8 – Casgliadau
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr allu:
- Dangos dealltwriaeth o’r amrywiol draddodiadau ysgrifennu, y dulliau lledaenu a’r cynulleidfaoedd ar gyfer gweithiau creadigol.
- Dadansoddi ystod o destunau perthnasol ac adnabod gwahanol ddulliau a thechnegau creadigol.
- Defnyddio gwahanol ffurfiau llenyddol a thechnegau ysgrifennu creadigol, ac arbrofi â nhw.
- Myfyrio'n feirniadol ar eu proses greadigol a'u gwaith creadigol eu hunain, a gwaith eraill.
Asesiadau
- Darn ysgrifenedig (ffeithiol greadigol neu stori fer; 1200 o eiriau) neu gasgliad o farddoniaeth (60 llinell) (60% o'r marc cyffredinol)
- Sylwebaeth fyfyriol feirniadol (40% o'r marc cyffredinol)
Awgrymiadau Darllen
Cynigir awgrymiadau ar gyfer deunydd darllen drwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd
- Gliniadur neu gyfrifiadur gyda gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
- Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.