Autobiographical Writing
Gellir astudio 'Autobiographical Writing' fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Henrietta Tremlett
Dull Dysgu: Ar lein
Level: This module is at CQFW Level 4
Cod y Modiwl: XM15710
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Gellir archebu lle ar y cwrs yma.
Braslun
Mae mwy ynghlwm wrth ysgrifennu hunangofiant nag adrodd ffeithiau eich bywyd mewn trefn gronolegol. Mae hunangofiant da yn defnyddio technegau ffuglen (disgrifiadau byw, creu golygfeydd, saernïo naratif) yn ogystal â thechnegau ysgrifennu ffeithiol (ymchwil, dadansoddi, cysylltu profiad yr unigolyn â'r byd ehangach) i gynhyrchu dogfen sydd o ddiddordeb i ddarllenwyr. Yn y cwrs hwn byddwn yn edrych ar hanfodion y broses, a’u hymarfer, gan eich tywys i lunio eich hunangofiant mewn ffordd bersonol a fydd yn eich ysbrydoli i’w ysgrifennu.
Rhaglen
Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi'u dysgu, a datblygu eu sgiliau. Anogir myfyrwyr i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â’r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.
- Uned 1 - Cyflwyniad: dod i adnabod ein gilydd, darllen ac ysgrifennu hanesion hunangofiannol, cadw llyfr nodiadau.
- Uned 2 - Cof a Lle – lleoliadau a golygfeydd. Ymarferion i osgoi'r beirniad mewnol.
- Uned 3 - Cof a Phobl – cymeriadau a chreu sgyrsiau.
- Uned 4 - Cof a Phrofiad Corfforol – defnyddio manylion synhwyraidd.
- Uned 5 - Saernïo’ch Hunangofiant 1 – dechrau, canol a diwedd.
- Uned 6 - Saernïo’ch Hunangofiant 2 – dernynnau, patrymau, motiffau a’r llinynnau arian.
- Uned 7 - Gosod cyflymder – rhythm ysgrifennu hunangofiannol.
- Uned 8 - Golygu eich gwaith eich hun
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr fod yn gallu:
- Diffinio gwahanol ffyrdd o saernïo a chyflwyno hunangofiant.
- Trafod eu gwaith eu hun a gwaith eraill yn adeiladol.
- Adolygu eu gwaith eu hun yn feirniadol a golygu'n effeithiol.
- Creu un darn o waith hunangofiannol sy'n bennod(au), adran(nau) neu ddetholiad(au) o hunangofiant llawn arfaethedig.
Asesiadau
- Darn o waith hunangofiannol, 2000 o eiriau wedi ei saernïo (75%)
- Cynnig o 500 gair ar gyfer darn o waith hunangofiannol (25%)
Awgrymiadau Darllen
Cynigir awgrymiadau ar gyfer deunydd darllen drwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd
- Gliniadur neu gyfrifiadur gyda gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
- Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.