An Introduction to Genre
Gellir astudio 'An Introduction to Genre' fel cwrs annibynnol ac mae’n un o gyrsiau craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Saesneg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Lara Clough
Dull Dysgu: Ar lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: XE10310
Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Braslun
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i ysgrifennu'n greadigol mewn gwahanol genres ffuglennol. Bydd y cwrs yn trafod: beth yw genre a beth sydd gan y gwahanol genres i’w cynnig i awdur?
Gan ddefnyddio amrywiaeth o destunau ffuglennol, bydd myfyrwyr yn dysgu adnabod nodweddion a swyddogaethau gwahanol fathau o ffuglen genre. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hannog i drin a thrafod ac arbrofi'n greadigol gydag ystod o ddeunyddiau a thechnegau. Bydd y cwrs yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r genres canlynol: ffuglen drosedd, ffuglen hanesyddol, arswyd, rhamant a ffuglen wyddonol a ffantasi.
Mae'n addas ar gyfer dechreuwyr a allai fod yn ceisio ysgrifennu'n greadigol am y tro cyntaf ac ar gyfer awduron mwy profiadol sy'n awyddus i ddatblygu technegau newydd a gwella eu sgiliau ysgrifennu.
Rhaglen
Bydd pob uned yn cynnwys gweithgareddau a thasgau a fydd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer y technegau y maent wedi’u dysgu, a datblygu eu sgiliau. Anogir myfyrwyr i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost trwy gydol y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.
- Uned 1 - Rhagarweiniad
- Uned 2 - Beth yw Genre?
- Uned 3 - Ffuglen Drosedd
- Uned 4 - Ffuglen Hanesyddol
- Uned 5 - Arswyd
- Uned 6 - Rhamant
- Uned 7 - Ffuglen Wyddonol a Ffantasi
Casgliadau
Cyfarfod dros Teams yn fyw – dathliad!
Ar ddiwedd y modiwl bydd y tiwtor yn cynnal gweminar fyw i ddod â holl linynnau'r modiwl at ei gilydd a gall myfyrwyr gyflwyno cwestiynau i gael atebion.
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Dangos dealltwriaeth o beth yw genre a gallu adnabod genres ffuglennol amrywiol.
- Dadansoddi ystod o destunau genres perthnasol a nodi’r gwahanol ddulliau, y technegau a’r swyddogaethau creadigol.
- Defnyddio gwahanol genres llenyddol a thechnegau ysgrifennu creadigol, ac arbrofi â hwy.
- Myfyrio'n feirniadol ar eu proses greadigol a'u gwaith creadigol eu hunain, a gwaith eraill.
Asesiadau
- Darn ffuglen genre ysgrifenedig (1200 o eiriau; 60% o'r marc cyffredinol)
- Sylwebaeth fyfyriol feirniadol (800 o eiriau; 40% o'r marc cyffredinol)
Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen
Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyswllt â'r Rhyngrwyd
- Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
- Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.