Beth yw dysgu gydol oes?

Ymchwil parhaus am wybodaeth yw dysgu gydol oes - ymchwil a ysgogir gennych chi’ch hun ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol, sef yn y bôn, y cysyniad nad ydych chi byth yn rhoi'r gorau i ddysgu. Mae'n golygu nad yw addysg a dysgu wedi'u cyfyngu i ffurfioldeb ysgol neu gyfnod penodol mewn bywyd ond ei fod yn ymestyn trwy gydol oes unigolyn. 

Rhai o nodweddion dysgu gydol oes:

Taith ddi-ben-draw: bod yn fyfyriwr sy’n astudio bywyd, wastad yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu, waeth pa mor hen rydych chi.

Hunan-ysgogol: rydych chi'n dysgu am eich bod chi eisiau, nid dim ond am fod yn rhaid i chi. Efallai eich bod yn chwilfrydig, yn chwilio am yrfa newydd, neu eisiau dysgu math newydd o gelf neu iaith!

Unrhyw le a phobman: nid yw dysgu gydol oes wedi'i gyfyngu i'r ystafell ddosbarth, gallwch ddysgu o fideo, podlediad, llyfr, neu sgwrs mewn siop goffi.

Cadw ar y blaen: mae'r byd yn newid trwy’r amser. Trwy barhau i ddysgu, rydych chi'n cadw i fyny â'r datblygiadau diweddaraf a byth yn teimlo allan ohoni.

Twf: mae rhai pobl yn dysgu ar gyfer eu gwaith. Efallai bod eraill yn dysgu er mwyn gallu siarad iaith newydd, deall ffurf wahanol ar gelfyddyd, datblygu diddordeb neu dim ond i wybod mwy am y byd.

Nid llyfrau yn unig: nid dim ond darllen llyfrau neu ennill gradd. Mae'n ymwneud â deall diwylliannau, pobl, a sut mae pethau'n gweithio.

Chi sy’n rheoli: chi sy'n penderfynu beth i ddysgu, gan wneud dewisiadau sy'n eich cynorthwyo i dyfu a gwneud penderfyniadau mewn bywyd.

Cwestiynu popeth: mae dysgwyr gydol oes yn gofyn "pam" a "sut." Maen nhw wrth eu bodd yn canfod syniadau newydd.

Yn syml, mae dysgu gydol oes yn ymwneud â chadw’n chwilfrydig, bod yn barod i gydio yn rhywbeth newydd, a pheidio â meddwl eich bod wedi dysgu'r cwbl.

Gall unrhywun ymuno â Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae gennym ddewis da o gyrsiau yn ein Hadran Dysgu Gydol Oes, sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae ein cyrsiau ar agor i oedolion o bob oed, yn ogystal â myfyrwyr o unrhyw brifysgol a allai ystyried bod ein cyrsiau hybu gradd yn ddefnyddiol.

Mae llawer o'n cyrsiau'n cael eu cynnal o bell neu trwy ddysgu cyfunol, sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble rydych chi eisiau. Rydym yn parhau i gynnig cyrsiau wyneb-i-wyneb. Mae gan ein tiwtoriaid gymwysterau a phrofiad. Maent yn darparu adnoddau astudio hygyrch ac maent wrth law i gynnig hyfforddiant ac arweiniad arbenigol.

Er mwyn sicrhau mynediad i bawb, rydym yn cadw ein ffioedd cwrs mor gystadleuol â phosibl. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael talu ffioedd eich cwrs drwy ein Cynllun Hepgor Ffioedd.

Gellir astudio ein cyrsiau fel modiwlau annibynnol neu gallwch weithio tuag at Dystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch mewn meysydd pwnc penodol.