Hooked on Wool

 

Gellir astudio Hooked on Wool’ fel cwrs annibynnol, ac mae'n gwrs dewisol ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg 

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Charlie Kenobi 

Dull Dysgu: Wyneb yn Wyneb 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC 

Cod y Modiwl: XA09110

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sgiliau gweithio gyda gwlân a’r gwahanol fathau o wlân sydd eu hangen ar gyfer gwahanol brosiectau? A hoffech chi ddysgu mwy am flancedi gwlân enwog Tregwynt?

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cefndir, hanes a symudiad y diwydiant gwlân i chi ynghyd â sgiliau sy'n cyflwyno'r crefftau a oedd yn ganolog i genedlaethau'r gorffennol. Byddwch yn dysgu'r crefftau lleol traddodiadol trwy wau, ffeltio a gwneud dillad o wlân a deunydd wedi'i ailgylchu.

Rhaglen 

Cwrs a ddysgir wyneb yn wyneb yw ‘Hooked On Yarn’ ac mae wedi’i anelu at ddysgwyr a hoffai gael cefnogaeth wrth roi cynnig ar grefftau edafedd gwahanol. Does dim angen profiad blaenorol o unrhyw un o'r technegau gan fod y cwrs wedi'i anelu at ddechreuwyr.  Rhennir y cwrs yn 4 sesiwn ymdrwythol a bydd 5ed sesiwn fyrrach yn cwblhau'r cwrs ar gyfer cyflwyno prosiect terfynol ac asesu un o'ch dewis brosiectau. 

Yn ogystal â'r arddangosiadau a'r gweithdai, byddwn yn cael seibiannau haeddiannol i gael paned a myfyrio ar ddiwylliant gwlân Cymru, a hyd yn oed cael golwg yn yr Archifau Cenedlaethol i ddeall gwreiddiau Gwlân Cymru a sut mae wedi newid dros y blynyddoedd.

Sesiwn 1 - Needle felting a tiny world pin cushion.

Sesiwn 2 - Knitting to knit a Cosy Cowl

Sesiwn 3 - Crochet to crochet Cabin Boots from flip flops

Sesiwn 4 - Knit or crochet mug coaster for wet felting.

Sesiwn 5 - Cyflwyno hoff brosiect i’w asesu a dathlu llwyddiant y cwrs

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau ar gyfer deunydd darllen drwy gydol y cwrs.

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Bydd rhestr o ddeunyddiau, nad ydynt wedi'u cynnwys yn ffioedd y cwrs, ar gael cyn dyddiad dechrau'r cwrs.