Lena
A oedd gynnych unrhyw bryderon am astudio ar-lein?
Oedd, roeddwn i'n poeni braidd gan nad ydw i erioed wedi gwneud hyn o'r blaen.
Beth wnaeth eich helpu i wneud y penderfyniad?
Y ffordd y cyflwynwyd yr wybodaeth ac, roeddwn i'n chwilfrydig am Nocturnes.
Sut oeddech chi'n teimlo am gyflymder y dysgu?
Roeddwn i'n gofyn llawer o gwestiynau a chefais ymateb da bob amser ac fe wnes i gymryd fy amser.
A roddodd e unrhyw syniadau neu sgiliau newydd i chi nad oeddech wedi'u defnyddio o'r blaen?
Do, fe wnaeth. Roeddwn i'n teimlo'n fwy rhydd ac wedi darganfod ffordd newydd o baentio gyda dyfrlliw; i fynd allan yn y tywyllwch ac edrych ar oleuadau tai a goleuadau stryd fel profiad newydd a phaentio'r tywyllwch.
Sut oeddech chi'n teimlo am y lefel a'r tasgau o fewn yr unedau dysgu?
Da iawn. Roeddwn i angen help ac fe wnes i ei gael hefyd. Dim problem.
Beth oedd eich profiad o gefnogaeth y tiwtor?
Da iawn, gan fy mod i wedi gofyn llawer o gwestiynau oherwydd fy mod yn dod o Sweden ac er mwyn deall y ffordd o feddwl ac o wneud, gofynnais a chael ymateb da.
Mewn un frawddeg crynhowch eich profiad…
Rwy'n falch fy mod wedi gwneud y cwrs hwn gan ei fod wedi rhoi cryd dipyn o help i fi.