Adborth Myfyrwyr

 

Rydym yn gwerthfawrogi'r holl adborth a gawn gan ein myfyrwyr.

Mae gan fyfyrwyr olwg gynhwysfawr ar sut mae eu tiwtoriaid yn dysgu ac ysbrydoli eu myfyrwyr a dyna pam y gofynnwn ni i'n myfyrwyr lenwi holiaduron byr ar ganol pob cwrs, ac ar y diwedd.

Mae casglu adborth ein myfyrwyr yn hanfodol gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni am ein dulliau dysgu ac am ddeinameg y ddarlithfa. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu gwneud newidiadau yn ystod y cwrs a gwella’r dysgu os bydd angen – sy’n gwneud y profiad dysgu yn fwy effeithiol a diddorol i’r myfyrwyr.

Mae gennym ddiddordeb gwirioneddol ym marn ein myfyrwyr. Mae eu safbwyntiau’n werthfawr ac yn gallu ddylanwadu'n uniongyrchol ar y broses ddysgu trwy dynnu sylw at beth sy'n gweithio'n dda a dangos lle y gellid gwella efallai.

Mae ein system adborth hefyd yn ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith y myfyrwyr, ac yn aml yn arwain at fwy o gyfranogiad yn y cyrsiau ac ymrwymiad mwy dwys i’r dysgu, gan gyfrannu yn y pen draw at brofiad addysgol mwy cyfoethog.

Dyma farn rhai o'n myfyrwyr cyfredol: