Gwasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell i fyfyrwyr dros y gwyliau

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn cau am 16:30 dydd Gwener, 20fed Rhagfyr 2024 ac yn ail-agor am 08:30 ar dydd Iau, 2il Ionawr 2025.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb oddi wrthym ni i gyd yn Gwasanaethau Gwybodaeth. 

Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

  • Mae Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24 awr tan Ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr
  • Dydd Sul 15 Rhagfyr hyd nes Dydd Iau 19 Rhagfyr: mae Lefel D ar agor 24/7 a Lefelau E a F ar agor 08:30-20:00
  • Dydd Gwener 20 Rhagfyr: mae Lefel D ar agor 24/7 a Lefelau E a F ar agor 08:30-16:30
  • Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr Lefelau E ac F ar gau hyd nes 08:30 Dydd Iau 02 Ionawr 2025
  • Mae Lefel D ar agor 24/7 bob amser (mae angen Cerdyn Aber i fynd i mewn ac allan)

Bydd y Llyfrgell yn ail-agor am 08:30 Dydd Iau 02 Ionawr 2025 https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/opening-hours/

Benthyciadau Gwyliau

Bydd llyfrau llyfrgell sydd yn cael eu benthyca neu eu hadnewyddu o'r llyfrgell o'r 9fed Rhagfyr 2024 yn cael eu hadnewyddu tan ddydd Llun 6ed Ionawr. Gellir gwneud ceisiadau o hyd ond ni fydd eitemau yn ddyledus tan 6ed Ionawr 2025. E-bostiwch gg@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw broblemau.

Astudio yn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod tywydd oerach

Mae Llawr D (llawr mynediad) Llyfrgell Hugh Owen yn ofod cynnes 24/7 felly ystyriwch astudio ar lawr D os ydych chi’n teimlo'n oer. Os ydych chi'n ei chael hi'n oerach i astudio ar Lawr F (llawr uchaf), Llawr E (llawr canol) neu Iris de Freitas, yn enwedig os ydych chi'n gweithio'n hwyrach i'r nos neu'n gynnar yn y bore, ystyriwch wisgo dillad cynhesach yn yr ardaloedd hyn. Dros y gwyliau Nadolig tra bydd gweddill llyfrgell Hugh Owen ar gau, bydd Lefel D Llyfrgell Hugh Owen yn parhau ar agor ac yn gynnes 24/7 (o ddydd Gwener 20 Rhagfyr 16:30 tan 08:30 ddydd Iau 02 Ionawr 2025 pan fydd y llyfrgell gyfan yn ailagor). Gweler amseroedd agor y llyfrgell.

Defnyddio llyfrgelloedd eraill dros y gwyliau

Fyddwch chi'n teithio i ffwrdd o Aber dros wyliau'r Nadolig?

  • Fel myfyriwr yn Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennych chi hawl i wneud cais i gael defnyddio nifer o lyfrgelloedd Addysg Uwch eraill drwy gynllun Mynediad SCONUL.
  • Mae'r cynllun hwn yn caniatáu ichi barhau â'ch astudiaethau tra byddwch i ffwrdd o Aberystwyth a defnyddio mannau astudio neu adnoddau llyfrgell mewn sefydliad arall sy'n cymryd rhan yn y cynllun. 
  • Gall gymryd hyd at 4 wythnos i brosesu eich cais, felly cynlluniwch ymlaen llaw a gwnewch gais heddiw: https://www.sconul.ac.uk/sconul-access

Defnyddio ystafelloedd cyfrifiaduron dros y wyliau

Ceir manylion am oriau agor yr ystafelloedd cyfrifiadur dros Wyliau'r Nadolig yma http://www.aber.ac.uk/cy/is/computers/rooms/

SgiliauAber

Ydych chi am wella’ch sgiliau adolygu a dod o hyd i fwy o adnoddau ar baratoi  ar gyfer arholiadau gan gynnwys delio â straen arholiadau? Am ystod eang o adnoddau i’ch helpu astudio ewch i dudalennau gwe SgiliauAber.

Os ydych wedi methu dod i’n gweithdai, mae’r adnoddau ar gael ar Blackboard

Canllaw Blackboard Ultra i Fyfyrwyr

Mae deunyddiau cymorth i gynorthwyo myfyrwyr gyda Blackboard Ultra bellach ar gael ar ein tudalennau gwe. Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi creu Canllaw Myfyrwyr yn benodol ar gyfer Ultra y gellir ei lawrlwytho.

Canfod a defnyddio e-adnoddau ar gyfer aseiniadau ac adolygu

LibGuides: https://libguides.aber.ac.uk/hafan

Mae gan y Llyfrgell ganllawiau pwnc a all eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich astudiaethau, aseiniadau ac adolygu. Gyda LibGuides, gallwch gael gwybodaeth am

  • adnoddau electronig,
  • e-lyfrau,
  • cronfeydd data allweddol,
  • sgiliau astudio
  • a llawer mwy, hyd yn oed pan nad ydych yn astudio ar y campws.

Blackboard Ally

Efallai bydd y fformatau eraill sydd ar gael trwy Blackboard Ally yn help i chi wrth adolygu.

Microsoft Office am ddim i bob myfyriwr Aber

Tra eich bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae modd i chi lawrlwytho Microsoft Office am ddim drwy eich cyfrif office 365.

Sut? Dyma’r cyfarwyddiadau: https://faqs.aber.ac.uk/cy/1391 

Gweithio o gartref ac eisiau cael mynediad at adnoddau'r brifysgol?

Bydd gosod cysylltiad VPN ar eich cyfrifiadur yn eich galluogi i gael mynediad at adnoddau'r brifysgol fel petaech ar y campws. Mwy o wybodaeth am sut i osod cysylltiad: Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN)  : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth

LibGuides: Dod o hyd i adnoddau i gefnogi'ch pwnc

LibGuides: https://libguides.aber.ac.uk/hafan

Mae gan y Llyfrgell ganllawiau pwnc a all eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich astudiaethau. Gyda LibGuides, gallwch gael gwybodaeth am

  • adnoddau electronig,
  • e-lyfrau,
  • cronfeydd data allweddol,
  • sgiliau astudio
  • a llawer mwy, hyd yn oed pan nad ydych yn astudio ar y campws.

Cefnogaeth llyfrgell i ymchwilwyr

Mae’r canllaw llyfrgell i ymchwilwyr https://libguides.aber.ac.uk/ymchwilwyr yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau, cyfarwyddyd ac adnoddau i’ch cynorthwyo drwy bob cam o’ch ymchwil gan gynnwys:

  • Dod o hyd i adnoddau wrth gynllunio a chwilio am lenyddiaeth
  • Sicrhau bod gan gyhoeddiadau neu ddata Fynediad Agored
  • Rheoli eich cyfeiriadau
  • Helpu gyda llyfryddiaeth ystadegol/altmetreg

Hen bapurau arholiad ar-lein i gynorthwyo adolygu

I’w gweld, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/past-papers/ a dewis y modiwl o restr eich adran. Mae hen bapurau i’w cael i’r rhan fwyaf o fodiwlau am y 5 mlynedd ddiwethaf. Gofynnir i chi fewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair PA er mwyn eu gweld.

Os nad yw’r papur rydych yn chwilio amdano yno, gofynnwch i'ch adran sicrhau ei fod ar gael.

Er mwyn diogelu eich cyfrif TG a'ch data personol, peidiwch byth â rhannu'ch cyfrinair ag unrhyw un

Dyma eich atgoffa na ddylech rannu eich cyfrinair gyda neb, boed wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar-lein. Os oes gennych unrhyw bryderon bod rhywun arall yn defnyddio eich cyfrif, cysylltwch â desg gymorth y GG cyn gynted â phosibl: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/

Gwyliwch rhag Bygythiadau Seiberddiogelwch dros y Gwyliau

Yn hanesyddol mae cyfnod y Nadolig yn gweld cynnydd mawr mewn ymdrechion gwe-rwydo a sgamiau e-bost. Byddwch yn wyliadwrus yn ystod yr amser hwn, a sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw e-byst sy’n peri pryder gan ddefnyddio’r dull adrodd newydd: https://faqs.aber.ac.uk/cy/9366

Mae eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn rhoi mynediad breintiedig i chi i systemau Prifysgol Aberystwyth, gyda llawer ohonynt yn cynnwys data personol a sensitif, ac mae gennych gyfrifoldeb i gadw eich manylion mewngofnodi’n ddiogel. Mae cyfrifon defnyddwyr dan fygythiad yn peryglu eich data personol chi ac eraill, yn ogystal â gwasanaethau digidol ehangach y Brifysgol.

  • I gael cyngor ar sut i wirio a yw e-bost yr ydych wedi’i dderbyn yn ddilys, gweler https://faqs.aber.ac.uk/cy/394
  • Os oes perygl i'ch cyfrif bydd yn cael ei gloi i atal defnydd maleisus.
  • Os credwch fod eich cyfrif e-bost wedi’i beryglu neu os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â gg@aber.ac.uk

Amserlen arholiadau terfynol - Semester 1

Mae amserlen arholiadau terfynol ar gyfer semester un ar gael ar y wefan amserlennu. Os am gyngor pellach parthed arholiadau, gallwch gysylltu â’ch swyddog arholiadau adrannol