Gwasanaeth Benthyciad Post
Mae'r gwasanaeth benthyciad post ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cofrestredig sydd yn:
- Dysgwyr o bell
- Ag anghenion cymorth ychwanegol
Dim ond y myfyrwyr uchod sydd yn byw tu allan i Aberystwyth gall dderbyn benthyciad post.
Os yw'r eitem ar fenthyg i ddefnyddiwr arall yn barod, mi fyddwn yn ei hadalw ac yn ei hanfon atoch cyn gynted â phosibl.
Os ydyn yn adalw eitem sydd gennych ar fenthyg, mi fydd rhaid i chi ddychwelyd yr eitem ar unwaith.
Rydym yn cadw'r hawl i wrthod y benthyciad os:
- ydych wedi cyrraedd uchafswm eich benthyciadau
- oes fenthyciadau gorddyledus ar eich cyfrif
- yw'r eitem yn rhy fregus neu werthfawr i bostio
Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth, rydych yn gyfrifol am yr eitem a fenthycwyd o'r amser a dderbyniwyd yr eitem hyd at iddo gael ei dderbyn yn ol gan y Llyfrgell.
Os oes copi electronig ar gael, ni fyddwn yn postio copi caled. Cyn gwneud cais am fenthyciad post, edrychwch i weld os yw'r eitem ar gael ar-lein. [Sut ydw in dod o hyd i e-lyfr yn Primo?]
Mi fydd pob e-bost o'r Llyfgell yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad Prifosgol Aberystwyth.
Os nad ydych yn perthyn i'r categori defnyddiwr a restrir uchod ond angen benthyciadau post e-bostiwch is@aber.ac.uk i drafod gofynion.
Gofyn am fenthyciad post
- I ofyn am fenthyciad post dilynwch y cyfarwyddiadau yma
- Pan ddaw eich cais i law, bydd eich eitem yn cael ei chasglu o'r silffoedd, ei rhoi ar eich cyfrif a'i hanfon drwy'r post i'r cyfeiriad a nodir.
- Mi fydd parseli yn cael ei anfon drwy'r post ail ddosbarth neu gyda chwmni cludiant (yn dibynnu ar bwysau) Pan fydd parseli yn cael ei anfon gyda chwmni cludiant, mi fydd Gwasanaethau Gwybodaeth darparu'r cwmni cludiant gyda'ch cyfeiriad e-bost PA a'r rhif ffôn a gafodd ei nodi gyda'ch cais.
- Bydd yr eitemau a anfonir dramor yn cynnwys bag dychwelyd rhagdaledig fel y gallwch ddychwelyd yr eitem i Lyfrgell Prifysgol Aberystwyth gyda Chwmni Cludiant yn rhad ac am ddim. Rhaid defnyddio’r bag dychwelyd rhagdaledig hwn o fewn 90 diwrnod ar ôl i’r eitemau gael eu rhoi i chi. Pan fyddwch chi’n derbyn eich eitemau, cadwch y bag dychwelyd hwn yn ddiogel, yn barod i’w ddefnyddio.
- Byddwch yn cael e-bost pan fydd eich eitem ar ei ffordd atoch.
- Bydd y benthyciadau'n adnewyddu yn awtomatig bob wythnos nes eu bod yn cyrraedd eu hamser adnewyddu uchaf (12 mis) neu hyd nes y daw eich cyfrif benthyca llyfrgell i ben.
- Does dim modd i ddefnyddiwr arall ofyn am yr eitem.
Dychwelyd eitemau
Gallwch naill ai
- Dychwelyd yr eitem pan fyddwch yn dychwelyd i Aberystwyth (Gwybodaeth am ble i ddychwelyd eich benthyciadau)
- Dychwelyd trwy ddefnyddio ein gwasanaeth dychwelyd Rhadbost, bydd manylion yn cael ei e-bostio atoch.
Eich cyfrifoldeb chi yw'r eitem hyd nes iddo gael ei dderbyn gan y Llyfrgell.
Mi fyddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau pan fydd yr eitem wedi ei ddychwelyd oddi ar eich cyfrif.