Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau
Amhariad ar Wasanaeth y Llyfrgell Brydeinig
Mae amhariad technegol yn effeithio ar y Llyfrgell Brydeinig ar ôl ymosodiad seiber. Effeithiwyd ar eu gwefan ac ar y systemau a’r gwasanaethau ar-lein. Disgwylir i’r amhariad ar rai gwasanaethau penodol bara am nifer o fisoedd.
Gwneir pob ymdrech i gyflenwi ceisiadau am lyfrau ac erthyglau trwy sefydliadau eraill ond disgwylir oedi wrth brosesu a chyflenwi ceisiadau am Ddogfennau o’r Llyfrgell Brydeinig.
Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid y Llyfrgell Brydeinig wedi rhoi gwybod na fydd taliadau’n cael eu codi am adnewyddu llyfrau.
Os oes gennych gyfrinair i wasanaethau’r Llyfrgell Brydeinig sy’n cael ei ddefnyddio gennych ar wefannau eraill, mae’r Llyfrgell yn argymell ichi ei newid yn y mannau eraill hynny rhag ofn.
Mae gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol. I sicrhau nad yw'r eitem ar gael yn lleol, gwiriwch y canlynol cyn gosod eich cais Cyflenwi Dogfennau:
- Primo - catalog Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth
- Catalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Adnoddau Gwybodaeth Electronig Prifysgol Aberystwyth
Dilynwch y linciau isod i wneud cais am:
- Llyfrau
- Erthyglau Cyfnodolion
- Draethodau Meistr neu Draethodau PhD o’r tu allan i’r DU
- Draethodau PhD o’r DU. Edrychwch ar EThOS yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Ni fydd ceisiadau am fenthyciadau drwy'r Gwasanaeth Cyflewni Dogfennau yn ymddangos ar eich cofnod defnyddiwr ar Primo.
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau defnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar arian sydd ar gael.
Grŵp Defnyddwyr | Nifer o ceisiadau | Taliadau |
---|---|---|
Staff | Anghyfyngedig | Am ddim |
Uwchraddedig ymchwil (Doethuriaeth, MPhil) | Anghyfyngedig | Am ddim |
Uwchraddedig a addysgir (Gradd Feistr, TAR) |
Hyd at 10 ceisiadau am ddim am bob flwyddyn academaidd * |
Y 10 cyntaf am ddim, yna taliadau’n berthnasol. |
Israddedig |
Hyd at 5 ceisiadau am ddim am bob flwyddyn academaidd * |
Y 5 cyntaf am ddim, yna taliadau’n berthnasol. |
* Os ydych wedi rhagori ar y nifer o geisiadau a ddyrannwyd a hoffech eitemau pellach gan y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau, yna parhewch i gyflwyno eich ceisiadau. Bydd aelod o staff yn rhoi gwybod i chi os ydych yn atebol i dalu unrhyw daliadau ar geisiadau ychwanegol cyn prosesu.
Gall Israddedigion, Uwchraddedigion Ymchwil a Addysgir rhoi cais am lyfr nad sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd drwy'r Gwasanaeth Mwy o Lyfrau.
Prisiau
Math o Eitem | Pris newydd o Awst 2023 |
---|---|
Llyfr | £18.85 |
Llungopi (i'w gadw) | £13.20 |
Dosbarthu Electronig Diogel | £6.70 / £11.70 ** |
Patent | Yn unol â ffioedd y Llyfrgell Brydeinig |
Traethawd ymchwil | £18.85 |
Ceisiadau Rhyngwladol |
Llyfrau £24.60 Llungopiau £14.00 |
** £11.70 os yn sganio-o-brint a £6.70 os cyflenwir o ffynhonnell electronig
Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau – Dychwelyd, Adnewyddu ac Ymholiadau
Neu, os ydych am adnewyddu llyfr cysylltwch â staff Cyflenwi Dogfennau, Llyfrgell Hugh Owen gan ddyfynnu rhif y cais, yr awdur a theitl y llyfr, o leiaf 3 diwrnod cyn y dyddiad dychwelyd. Byddwn wedyn yn cyflwyno cais am ganiatâd i adnewyddu’r eitem ac yna eich hysbysu o’r canlyniad.
A fyddech cystal â nodi: ar gyfer adnewyddu eitem, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y dyddiad disgwyliedig ar ôl i’r llyfrgell sy’n gwneud y benthyciad ymateb i’n cais.
Gwybodaeth pellach ar geisiadau Cyflenwi Dogfennau
Gwirio beth sy'n digwydd â'ch cais
Eitemau at ddefnydd cyfeiriol yn unig
Traethodau a chyflenwi llyfrgelloedd y Deyrnas Unedig a thramor
Traethodau y Deyrnas Unedig a Gogledd America