Mr Simon Marshall BA Hons (Cymru), PGCE (Oxon), AgilePM a PRINCE2 Ardystiedig Ymarferydd

Dylunydd Amlgyfrwng
Veterans Legal Link Project Web Manager
Manylion Cyswllt
- Ebost: som@aber.ac.uk
- Swyddfa: B43, Adeilad Hugh Owen
- Ffôn: +44 (0) 1970 622732
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: Fe / Fo
Proffil
Mae Simon yn gweithio fel y Rheolwr Prosiect ar gyfer Veterans Legal Link ac Auxilium Software
Mae Veterans Legal Link wedi’i leoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cyfeirio am ddim i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Am ragor o fanylion, neu i gyflwyno achos, ewch i’r wefan.
Llwyfan meddalwedd yw Auxilium, a ddatblygwyd gan Veterans Legal Link, ac mae bellach ar gael yn fasnachol fel gwasanaeth letyol. I gael rhagor o fanylion am Auxilium, neu i wneud ymholiad, ewch i wefan Auxilium
Yn rhinwedd y ddwy swyddogaeth hon, mae Simon yn gweithio yn Ystafell B43, Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais (ffôn 01970 62 2732).
--
Mae Simon hefyd yn aelod o dîm Dysgu o Bell IBERS, yn creu cynnwys amlgyfrwng ar gyfer y prosiect, at ddibenion addysg a hyrwyddo, gyda’r nod o ddarparu cyrsiau a modiwlau i bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau ffermio, bwyd a biotechnoleg (am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan).
Fel Dylunydd Amlgyfrwng i dîm Dysgu o Bell IBERS, mae Simon yn gweithio yn Ystafell 2.12, Adeilad Stapleton ar Gampws Gogerddan (ffôn 01970 62 2282).
--
Mae gan Simon gefndir ym maes addysg a rheoli gwefannau, a dros 25 mlynedd o brofiad fel rheolwr TG. Y mae’n rheolwr prosiectau profiadol, ac arferai arbenigo ym maes cydymffurfiaeth ar-lein.